Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ionawr 2012

Triathlon Pwllheli

AM y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Triathlon Pwllheli yn ei ôl gyda mwy o gystadlaethau nac erioed! Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae nifer y cystadleuwyr yn cael ei ymestyn i 170 ac yn cyflwyno dau gategori newydd – Cystadleuaeth LL53 a Chystadleuaeth dros 50 oed.

“Roedden ni mor falch fod 11 o dimau wedi cystadlu yn y categori timau y llynedd. Yn sgil y llwyddiant hwn, mi ryda ni’n awyddus i ddenu mwy o bobl leol i gystadlu,” meddai David Lloyd-Williams, trefnydd.

“Mi fydd categori LL53 ar gyfer y rhai sy’n byw o fewn ardal y côd post lleol.

“Gan bod nifer fawr o’r cystadleuwyr y llynedd dros eu 50au, mi ryda ni’n falch o gyhoeddi y bydd categori newydd yn cael ei sefydlu ar eu cyfer eleni.”

Yn dilyn adborth gan gystadleuwyr y llynedd, mi fydd system amseru digidol proffesiynol yn cael ei defnyddio ac mi fydd cystadleuwyr yn nofio mewn un lôn yn unig.

Arthur Connell o Fethesda ddaeth yn fuddugol yn ras y dynion y llynedd, gyda Karen Newby o Stockport yn cipio cystadleuaeth y merched am yr ail flwyddyn yn olynol. Lois Griffiths, Jason Jones a John Jones o ‘Dîm Crwban’ enillodd y Cystadleuaeth Tim.

“Rydym ni’n hynod ddiolchgar i bawb ddaeth i gefnogi Triathlon Pwllheli y llynedd. Heb y cystadleuwyr, y gwirfoddolwyr, busnesau lleol, CPD Pwllheli a’r Clwb Rygbi, ni fyddai’n bosib cynnal digwyddiad o’r fath,” meddai Delyth Davies.

“Digwyddiad lleol ydy hwn, sy’n cael ei drefnu gan wirfoddolwyr o’r ardal, ac mi fyddwn yn ddiolchgar iawn os bydd unrhyw un ar gael i roi help llaw i ni ar ddiwrnod y triathlon.”

Cafodd £1,000 ei gasglu ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Gwynedd y llynedd ac mi fydd Triathlon Pwllheli yn noddi Ysbyty Alder Hey eleni.

“Er nad ydy Ysbyty Alder Hey yn ysbyty lleol, mae llawer o deuluoedd yr ardal wedi cael cymorth amhrisiadwy gan yr ysbyty a’i staff. Felly roedden ni’n teimlo ei bod yn briodol fod yr elw eleni ym mynd at eu coffrau,” meddai Pryderi ap Rhisiart.

Mi fydd Triathlon Pwllheli 2012 yn cael ei gynnal ar Ddydd Sul y 1af o Ebrill. Bydd yna fandiau Cymraeg yn perfformio yng Nghlwb Rygbi Pwllheli yn dilyn y digwyddiad.

Am fwy o wybodaeth ewch ar ein gwefan www.triathlon-pwllheli.com

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, cysylltwch gyda’r tîm ar post@triathlon-pwllheli.com neu ffonio Delyth Davies ar 0777 6040 775.

Rhannu |