Mwy o Newyddion
Hwb i rasio harnais
Mae cymdeithas rasio harnes Ceredigion, Ceredrotian, wedi llwyddo i sicrhau grant er mwyn hyrwyddo’r gamp ar lefel leol a chenedlaethol, gyda phwyslais ar ddenu cefnogwyr newydd. Bydd yr arian yn galluogi’r gymdeithas i ddatblygu gwefan newydd gynhwysfawr a hyrwyddo eu gwaith a’r rasys harnes yn ehangach.
Gwobrwywyd yr arian gan Gyngor Sir Ceredigion drwy law Llywodraeth Cymru o fewn Cynllun Datblygu Cymru Wledig, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa Llywodraeth Cymru. Mae Ceredrotian yn cynrychioli pedwar clwb ledled Ceredigion – Llanbed, Tregaron, Tanycastell, a Cheredigion. Gwnaethpwyd y cais er mwyn datblygu rasio harnes a hybu twristiaeth yng Ngheredigion a hynny drwy ddangos fod gan y gamp draddodiad hir a sefydlog yn y sir. Erbyn hyn, mae’r sir yn cynnal rhai o rasys harnes pwysicaf a mwyaf blaenllaw’r DU ac mae modd iddynt gael effaith bositif ar dwristiaeth yr ardal.
Dywedodd Henry Bulman, cadeirydd a chyfarwyddwr Ceredrotian: “Rydym yn credu’n gryf fod modd denu mwy o ymwelwyr i’r rasys yng Ngeredigion, yn enwedig ymwelwyr newydd. Gyda’r arian hwn, rydym wedi apwyntio cwmni hyrwyddo a dylunio lleol, 52°4°, sydd wrthi’n llunio ein gwefan newydd ar hyn o bryd. Bydd y wefan nid yn unig yn adnodd bwysig ar gyfer selogion y rasys ond hefyd yn fan cychwyn gwych i’r rhai hynny sydd yn dysgu am y gamp o’r newydd ac am ymweld â’r rasys am y tro cyntaf.”
Ychwanegodd Karen Lowes, cyfarwyddwr Ceredrotian: “Drwy wario’r arian yma mewn modd effeithlon i gynyddu ein gwaith marchnata a hyrwyddo, medrwn ddenu mwy o bobl i’r rasys yn y sir, a gyda hwy, mwy o noddwyr. Mae hyn yn hanfodol er mwyn datblygu’r gamp ymhellach yn y sir, sicrhau effaith gadarnhaol ar yr economi leol a rhoi hwb cenedlaethol i‘r gamp yng Nghymru a’r DU.”
Sefydlwyd rasio harnes yn gadarn yng Nghymru yn niwedd y 19eg ganrif, ac mae gan sir Ceredigion draddodiad gref o gynnal rasys, gyda nifer cynyddol yn ymwneud â’r gamp – o hyfforddwyr a gyrrwyr i berchnogion a noddwyr - o ogledd i dde y sir, cynhelir y rasys drwy gydol yr haf.