Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/dh040311PrifysgolBangor.jpg)
Gormod o bellter i uno prifysgolion
FYDD prifysgolion Bangor ac Aber ddim yn uno i ffurfio prifysgol newydd ffurfiol – a hynny am fod yna ormod o bellter a materion eraill yn eu gwahanu nhw.
Ond mae’r ddau sefydliad wedi cadarnhau eu bod nhw’n trafod sefydlu “partneriaeth strategaethol” rhwng y ddau sefydliad, er mwyn ateb gofynion y corff ariannu addysg uwch, HEFCW.
Mae’r corff hwnnw eisoes wedi cyhoeddi bod gormod o brifysgolion a phrifathrawon colegau yng Nghymru, a bod yn rhaid i brifysgolion ystyried uno â’i gilydd er mwyn cynnig gwell gwerth am arian a dod yn fusnesau mwy sefydlog.
“Be’ ydan ni’n ei wneud ar hyn o bryd ydi ffurfio partneriaeth strategaethol gydag Aberystwyth, ond dydan ni ddim yn mynd mor bell ag uno,” meddai’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.