Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2012

Mwy o Gymraeg yn y Senedd Ewropeaidd

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawu addewid llywydd newydd y Senedd Ewropeaidd, Martin Schultz, i gefnogi defnyddio ieithoedd ‘cyd swyddogol’ fel y Gymraeg, Catalaneg a Basgeg yn nhrafodaethau'r Senedd. Cafodd Mr Schultz ei ethol dydd Mawrth. Mae wedi sicrhau i Ms Evans yn y gorffennol y byddai’n gweithredu ar ran ieithydd lleiafrifol.

Mae Jill Evans wedi ymgyrchu i gyfleusterau cyfieithu gael eu defnyddio yn y Senedd ar gyfer ieithoedd sydd â statws swyddogol yn eu gwlad eu hunain. Byddai hyn yn galluogi ASE i ddefnyddio'r ieithoedd hynny yn y Senedd Ewropeaidd. Mae gan y Gymraeg, Basgeg a Chatalaneg statws ‘cyd swyddogl’ yn barod o fewn yr UE, ac mae’r sefydliadau eraill wedi addasu'r rheolau er mwyn cydnabod hyn.

Mae Cymraeg wedi cael ei ddefnyddio gyda chyfieithu yng Nghyngor y Gweinidogion ac yn y Pwyllgor y Rhanbarthau, ond dydi'r Senedd Ewropeaidd ddim wedi derbyn y rheolau yn llawn. Mae’n golygu fod etholwyr yng Nghymru yn gallu cysylltu â’r Senedd a derbyn ateb yng Nghymraeg a bod cyfieithwyr Cymraeg yn cael ei defnyddio i weithio mewn sefydliadau'r UE, ond dydi’r hyn y mae ASE sydd yn siarad Cymraeg yn ei ddweud ddim yn cael ei gyfieithu i ieithoedd eraill.

Dywedodd Jill Evans MEP: "Rwyf yn llongyfarch Mr Schultz am gael ei ethol yn Llywydd y Senedd Ewropeaidd. Mae wedi cefnogi darparu cyfieithiad ar gyfer ieithoedd ‘cyd swyddogol’ megis y Gymraeg yn y Senedd Ewropeaidd, ac mae wedi gaddo rhoi’r mater ar yr agenda i’r pwyllgor sydd yn penderfynu ar reolau'r Senedd.

“Rwyf wedi bod yn ymgyrchu i gael cydraddoldeb rhwng holl ieithoedd yr UE ers imi gael fy ethol yn 1999. Rydym wedi bod yn llwyddiannus ar nifer o faterion: gwrthdroi rheol a oedd yn atal ieithoedd answyddogol rhag cael eu defnyddio ac ennill statws ‘cyd swyddogol’ ar gyfer y Gymraeg.

"Mae’r statws yma’n cael ei roi i ieithoedd sydd yn swyddogol yn eu gwlad eu hunan, ond ddim eto ar lefel Ewropeaidd. Wrth lywodraethu, fe sicrhaodd Plaid Cymru fod yr iaith Gymraeg yn derbyn statws swyddogol, a bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gwneud cais ar gyfer statws ‘cyd swyddogol’ ar lefel Ewropeaidd. Galluogodd hyn bobl i gysylltu â sefydliadau Ewropeaidd drwy ddefnyddio Cymraeg.

"Mae Cymraeg wedi cael ei ddefnyddio yng Nghyngor y Gweinidogion ac yn y Pwyllgor y Rhanbarthau, ond dydi'r Senedd Ewropeaidd heb dderbyn y rheolau yn llawn. Hefo cefnogaeth Mr Schultz rwyf yn credu y gallem newid hynny nawr. Fe fyddai hyn yn gam arall ymlaen yn yr ymgyrch i gael statws llawn i’r Gymraeg, fel ei bod yn cael ei gydnabod yn gyfartal ac ieithoedd eraill Ewrop.”

Llun: Jill Evans

Rhannu |