Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2012

Cyn-aelod y Cynulliad yn cefnogi ymgyrch Simon Thomas ar gyfer yr arweinyddiaeth

Mae cyn-aelod y cynulliad Owen John Thomas wedi cefnogi Simon Thomas ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru. Mae etholaeth Canol Caerdydd y Blaid wedi enwebu Simon Thomas ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Yr oedd Owen John Thomas yn aelod cynulliad dros Ganol De Cymru o 1999 hyd at 2007 ac yr oedd yn weinidog yr wrthblaid dros Ddiwylliant , y Gymraeg a Chwaraeon.

Dywedodd Owen John Thomas: “Rwy’n falch i ddweud y byddaf yn cefnogi Simon Thomas fel arweinydd Plaid Cymru. Fe fydd yn rhoi buddiannau’r blaid yn gyntaf wrth wynebu’r heriau sydd o’n blaenau. Mae ganddo alluoedd sydd heb eu hail. Mae ei brofiad seneddol yn San Steffan wedi dangos fod e’n gallu ymateb yn effeithiol ac yn chwim i sefyllfaoedd - rhywbeth sydd ei angen ar unrhyw arweinydd.

“Fel un sydd wedi cynrychioli’r cymunedau amrywiol ein prifddinas, Bro Morgannwg a chymoedd De Cymru, rwy’n gwybod y bydd Simon yn apelio i bobl ar draws Gymru. Caiff neges Plaid ei chlywed o’r newydd, mewn acen wahanol ac mewn ffordd wahanol gyda Simon wrth y llyw.”

Mae AC Canol a Gorllewin Cymru Simon Thomas wedi amlinellu sut y byddai’n arweinydd o fath wahanol ac arddull wahanol:

· gan wrando ar aelodau ac ymateb iddyn nhw

· cyflwyno prosesau penderfynu diwygiedig ac ymgynghori’n ystyrlon â phob rhan o’r blaid

· paratoi’r blaid ar gyfer yr ymdrech hirdymor i ddychwelyd fel llywodraeth.

Dywedodd Simon Thomas: “Rydw i wrth fy modd fod aelodau’r etholaeth Canol Caerdydd wedi fy enwebu. Rwy’n ddiolchgar hefyd am y gefnogaeth y mae Owen John Thomas wedi rhoi i mi.

"Mae’n uchel ei barch ar draws y blaid, am ei ymrwymiad i’r iaith Gymraeg a’i angerdd dros Gymru. Rhaid i arweinydd newydd nid yn unig adnewyddu’r blaid, ond hefyd ei hail-sefydlu fel dewis gwirioneddol i bobl ledled Cymru.

"Fel arweinydd, y byddwn am weld Plaid yn cynllunio ar gyfer dau etholiad, strategaeth deng mlynedd er mwyn inni fod yn brif blaid yng Nghymru.”

Rhannu |