Mwy o Newyddion
Seren aur i wasanaethau maethu Gwynedd
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd wedi derbyn adroddiad clodwiw gan arolygwyr cenedlaethol yn dilyn arolwg achlysurol o’r gwasanaeth maethu.
Mae gan y Cyngor 91 o ofalwyr maeth ar ei llyfrau sy’n gallu darparu cartref diogel ar gyfer 146 o blant, sydd mewn sefyllfa lle na all eu rhieni eu hunain edrych ar eu holau am resymau amrywiol. Ar yr amser y cynhaliwyd yr arolwg, roedd 18 o geisiadau pellach i fod yn rhieni maeth yn y broses o gael eu hasesu.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Williams, Arweinydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor: “Mae’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnal gan rieni maeth yn amhrisiadwy – hebddynt mae’n debyg y byddai nifer fawr o blant yn gorfod symud yn bell o’u cynefin, oddi wrth eu hysgol a theulu, gan achosi anhapusrwydd mawr a byddai’n rhoi straen enfawr ar adnoddau cyhoeddus.
“Mae gwneud yn siŵr fod pobl all wneud cyfraniad yn gallu dod yn rhieni maeth a sicrhau bod cefnogaeth ar gael iddynt drwy gydol y broses yn allweddol er mwyn gwneud yn siŵr fod y system yn gweithio a bod plant yn gallu byw bywydau hapus a bodlon waeth beth fo’u cefndir personol.”
Yn ôl yr adroddiad, mae Cyngor Gwynedd yn gwneud yn dda ym meysydd:
Monitro a chefnogi plant a theuluoedd drwy gydol y broses maethu
Asesu ymgeiswyr mewn sefyllfaoedd pan fo’r teulu estynedig eisiau maethu plentyn
Rheoli’r gwasanaeth
Asesu ymgeiswyr i fod yn rhieni maeth
Ers yr arolwg diwethaf yn Ebrill 2011, mae gwasanaeth maethu Cyngor Gwynedd wedi gweld cynnydd mewn sawl maes, gan gynnwys:
Camau i recriwtio gofalwyr maeth
Gwelliannau gweinyddol
Gwelliannau o ran cynnal adolygiadau statudol o fewn amserlenni
Ychwanegodd y Cynghorydd Williams: “Rydym yn hynod falch fod arolygwr y llywodraeth wedi nodi nad oes maes lle mae angen i’r Cyngor flaenoriaethu unrhyw welliannau. Rydym wedi cael yr un sylw am y pedair blynedd ddiwethaf, credaf fod hyn yn dangos fod Gwynedd yn gweithio o fewn canllawiau’r llywodraeth yn y maes pwysig a sensitif yma.
“Wrth gwrs, tydi hyn ddim yn golygu ein bod yn aros yn yr unfan. Bydd y gwasanaeth yn parhau i weithio’n galed er mwyn sicrhau gwelliannau pellach.”
Os oes gennych chi ddiddordeb cael mwy o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth, cysylltwch â thîm maethu Cyngor Gwynedd ar 01286 682660, e-bostiwch maethu@gwynedd.gov.uk neu ewch i: www.gwynedd.gov.uk/maethu