Mwy o Newyddion
Elis-Thomas yn lansio ei wefan newydd ar gyfer yr ymgyrch arweinyddiaeth
Mae Dafydd Elis-Thomas heddiw wedi lansio gwefan newydd sbon, a gafodd ei dylunio'n arbennig ar gyfer ei ymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru.
Lansiwyd www.dafyddelisthomas.org yng Nghanolfan Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog. Nod yw wefan yw rhoi gwybodaeth i'w gefnogwyr ac aelodau eraill Plaid Cymru am ei weithgareddau a'i sylwadau yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Yn ogystal â dolenni rhyngweithiol i'w gyfrifon Twitter a Facebook, mae'r wefan yn cynnwys tudalen arbennig lle gall aelodau a chefnogwyr ddatgan eu cefnogaeth i Dafydd, a thudalen sy'n amlinellu rôl Arweinydd Plaid.
Cafodd y wefan ei dylunio a'i chreu gan Mwnci Bach (www.mwncibach.com - cwmni dylunio cyfoes a lleol sydd â'i bencadlys yn Nhanybwlch, Maentwrog. Sefydlwyd Mwnci Bach yn 2006 ac mae'n cynnig gwasanaeth dylunio i lu o fusnesau lleol a chenedlaethol, ac yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth pwrpasol gyda phwyslais ar greadigrwydd a dealltwriaeth o anghenion eu cleient.
Yn ystod y lansiad ym Mlaenau Ffestiniog, cafodd y wefan ei chyflwyno gan Sam Evans, Rheolydd Gyfarwyddydd Mwnci Bach. Esboniodd Sam Evans pam eu bod mor awyddus i gymryd rhan yn yr ymgyrch.
Meddai: “Roeddem wrth ein bodd pan ofynnwyd i ni ddylunio'r wefan ac rydym yn cefnogi Dafydd yn ei ymgyrch i ddod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru. Roeddem yn awyddus i ddangos personoliaeth a chymeriad unigryw Dafydd a chreu gwefan sy'n wirioneddol yn ei gyfleu fel gwleidydd a dyn ei bobl.
Rydym yn hynod falch i chwarae rhan yn yr ymgyrch gyffrous yma, a gobeithiwn y bydd y wefan y gwnaethom ei chreu yn gaffaeliad i Dafydd a'i gefnogwyr."
Ychwanegodd Dafydd Elis-Thomas: “Mae fy ngwefan newydd yn wych, diolch i waith arbennig Mwnci Bach. Rwy'n credu eu bod wedi llwyddo i gostrelu fy llais, arddull a thema'r holl ymgyrch, ac rwy'n neilltuol o falch fod y cwmni blaengar yma o Ddwyfor Meirionnydd wedi rhoi gwefan mor lliwgar a difyr i'n hymgyrch. Mewn digwyddiad Wythnos Fusnes Cyngor Gwynedd y cyfarfûm gyntaf â Sam, sy'n profi fod Gwynedd yn lle gwych i wneud busnes ar gyfer Cymru gyfan a thu hwnt. Mae dychymyg yn bendant iawn yn fyw ac yn ffynnu yn y mynyddoedd yma!
Rwy'n gobeithio y bydd y wefan yn apelio at amrediad eang o bobl gan eu hannog i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma rhwng nawr a mis Mawrth. Ar y dudalen gartref, mae dolenni clir i fy nghyfrifon Facebook a Twitter, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn defnyddio'r safleoedd rhwydweithio hyn ar gyfer rhyngweithio, gan ei gwneud yn bosibl i mi gysylltu gyda chefnogwyr a darpar bleidleiswyr yn ystod yr wythnosau nesaf."
Llun: Dafydd Elis-Thomas