Mwy o Newyddion
David Cameron yn anfon cyfarchion pen-blwydd i’r Urdd
Yr wythnos hon derbyniodd Urdd Gobaith Cymru, sydd â 50,000 o aelodau yng Nghymru, gyfarchion pen-blwydd yn 90 oed gan Brif Weinidog y DU, David Cameron.
Cafodd aelodau o’r Urdd hefyd wahoddiad gan Swyddfa Cymru i gyfarfod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn Nhŷ Gwydr, Whitehall dydd Llun, 23 Ionawr a chael tynnu eu llun tu allan i rif 10, Stryd Downing.
Yn ôl David Cameron, Prif Weinidog y DU: “Mae’r Urdd wedi dihuno dychymyg cenedlaethau o bobl ifanc Cymru ers ei sefydlu 90 mlynedd yn ôl.
“Mae rhwydweithiau’r Urdd ledled Cymru wedi rhoi cyfle i blant o bob cefndir ymuno gyda’i gilydd i ddathlu hanes a threftadaeth Cymru drwy gyfuniad o gerddoriaeth, dawns a drama, yn ogystal â gwyddoniaeth a thechnoleg.
“Ers y dyddiau cynnar, mae’r mudiad wedi bod wrth galon meithrin balchder yn niwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae’r tri gwersyll yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc wneud ffrindiau am oes a throchi’u hunain yn yr iaith.
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r Urdd am eu holl waith caled, a hoffwn ddymuno’r gorau i’r Urdd ar gyfer y dyfodol, wrth i’r mudiad ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn.”
Y pum aelod fydd yn teithio i Lundain gyda Phrif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, yw Rhiannon Hincks, Ysgol Penweddig, Sian Elin Williams, Ysgol Llambed, Sioned Evans, Ysgol Bro Myrddin ac Efa Dafydd a Martha Grug Rhys, Ysgol Maes yr Yrfa. Maent i gyd yn aelodau o Fforwm Ieuenctid yr Urdd Myrddin a Cheredigion.
Meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, “Rwyf yn edrych ymlaen at groesawu aelodau Fforwm Ieuenctid yr Urdd Myrddin a Cheredigion i Dŷ Gwydr yr wythnos nesaf, yn ystod yr wythnos y bydd yr Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen i gael cyfarfod staff y mudiad sydd wedi gweithio mor galed i godi proffil pobl ifanc yng Nghymru.
“Yn ystod yr haf, byddaf yn mynd i weld sioe Theatr Ieuenctid yr Urdd, ‘Sneb yn Becso Dam’, fydd yn cynnwys criw o berfformwyr talentog, fel rhan o Olympiad Diwylliannol Olympics 2012. O ganlyniad i’r Urdd, mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau artistig a chreadigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddynt alumni trawiadol iawn, sy’n cynnwys Bryn Terfel, Matthew Rhys, Cerys Matthews, Aaron Ramsey a Shane Williams, oedd oll yn gyn-aelodau. Maent oll wedi talu teyrnged i’r mudiad, gyfrannodd at eu harwain at yrfa lwyddiannus.
“Hoffwn hefyd ddangos fy ngwerthfawrogiad i’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino ym mhob cwr o Gymru i sicrhau dyfodol yr Urdd a hoffwn ddymuno llwyddiant i’r mudiad am flynyddoedd i ddod – hir oes i’r Urdd!”
Ychwanegodd Rhiannon Hincks, Ysgol Penweddig, “Bydd yn wych cael cyfarfod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, a gweld drws du enwog rhif 10, Stryd Downing. Rydym yn cael cyfle yn y prynhawn hefyd i gyfarfod y gwleidydd profiadol Arglwydd Wigley, a Jonathan Edwards, A.S. Gorllewin Caerfyrddin a Dinefwr.
“Rydym wedi cael profiadau gwych gyda’r Urdd, gan gynnwys prosiect sydd newydd ddod i ben o’r enw ‘Trafodiaith’. Yn ystod y tri mis yn gwneud y prosiect buom yn trafod y problemau sydd yn wynebu siaradwyr Cymraeg heddiw, a cheisio dod o hyd i atebion iddynt trwy gyfrwng theatr fforwm. Dyma gyfle gwych arall wedi ei gynnig i ni gan yr Urdd.”