Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2012

Chwilio am gyflwynwyr yn seremonïau’r Eisteddfod

Hoffech chi chwarae rhan allweddol yn seremonïau Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau?

Mae gan Orsedd y Beirdd amryw o seremonïau lliwgar yn yr Eisteddfod ei hun ac yn y Cyhoeddi, a gynhelir yn Ninbych ddydd Sadwrn 23 Mehefin, ac ar hyn o bryd, maent  yn gwahodd ceisiadau gan unigolion i fod yn rhan o’r seremonïau.

Maent yn chwilio am y canlynol:

MACWYAID - Angen dau fachgen, 10-11 oed yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Byddant yn gweini ar y cyflwynydd wrth iddi gyflwyno’r Corn Hirlas i’r Archdderwydd. Rhaid iddynt fyw o fewn dalgylch Sir Ddinbych a’r Cyffiniau.

CYFLWYNYDD Y FLODEUGED - Merch ifanc, hawddgar, tua 16-18 oed, un a fedr gerdded yn urddasol i gerddoriaeth araf y delyn, ac a fedr adrodd ar ei chof eiriau’r cyflwyniad mewn Cymraeg clir a chroyw. Rhaid iddynt fyw o fewn dalgylch yr Eisteddfod.

CYFLWYNYDD Y CORN HIRLAS - Cyflwynir y Corn Hirlas gan un o blith mamau’r fro, merch hawddgar, un a fedr gerdded yn urddasol i fiwsig araf y delyn, ac a fedr adrodd ar ei chof eiriau’r cyflwyniad mewn Cymraeg clir a chroyw. Rhaid iddynt fyw o fewn dalgylch yr Eisteddfod.

Yn ogystal, mae’n rhaid i gyflwynydd y Flodeuged a chyflwynydd y Corn Hirlas gael dealltwriaeth lawn o brif amcanion yr Eisteddfod, sef hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Gallwch lawrlwytho’r wybodaeth i gyd o wefanEisteddfod 2013 – www.eisteddfod.org.uk - gan glicio ar Seremonïau neu gallwch ebostio elinor@eisteddfod.org.uk neu ffonio’r swyddfa – 0845 4090 400 am ragor o wybodaeth. Y dyddiad cau yw 3 Chwefror.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau o 3-10 Awst 2013, ar dir Fferm Kilford, ar gyrion tref Dinbych. Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan – www.eisteddfod.org.uk

Rhannu |