Mwy o Newyddion
Canrif o luniau yn adrodd hanes Abertawe
Mae grwp o wirfoddolwyr ymroddedig yn adrodd hanes Abertawe mewn 100 ffotograff.
'Mae 'Abertawe ar hyd y Degawdau - Ein Hanes mewn 100 Llun' yn brosiect i ddigideiddio 100 llun o Abertawe er mwyn eu cyhoeddi ar y we ac yna gwahodd defnyddwyr y we i ychwanegu eu hatgofion am y lluniau a ddetholwyd.
Mae'r haneswyr amatur lleol wedi bod yn chwilio trwy filoedd o ffotograffau o Abertawe a dynnwyd dros y degawdau i greu casgliad sy'n adrodd hanes y ddinas ers diwedd Oes Victoria cystal ag unrhyw eiriau.
A nawr mae staff o Lyfrgell Ganolog Abertawe ac Archifau Gorllewin Morgannwg wedi bod yn annog hyd yn oed mwy o bobl i ychwanegu eu llais at hanes ein dinas ar hyd y cenedlaethau ar ôl digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Ganolog Abertawe.
Meddai Kim Collis, Archifydd y Sir, "Roeddem wedi arddangos rhai o'r lluniau yn y Ganolfan Ddinesig yn y gobaith y byddent yn procio cof pobl fel y gallent drosglwyddo eu hatgofion am hanes ein bywyd yn ystod y cyfnod pan gafodd rhai o'r lluniau eu tynnu.
"Cawsom rai sgyrsiau hynod ddiddorol ag ymwelwyr â'r llyfrgell, gan amrywio o atgofion y 'pre-fabs' yng Ngendros, y gwragedd cocos ym Marchnad Abertawe, i Drên y Mwmbwls ac adeilad Weaver.
"Rydym yn gobeithio cynnal rhagor o'r fath ddigwyddiadau yn ystod y misoedd nesaf ac annog mwy o bobl i rannu eu hatgofion am y dref a'r ddinas. Mae'n amlwg bod cryn hoffter am lawer o dirnodau nodweddiadol Abertawe sydd wedi diflannu dros y degawdau diwethaf ac rydym am gofnodi hynny."
Daeth y syniad am y prosiect o Lyfrgelloedd Abertawe ac Archifau Gorllewin Morgannwg ac fe'i hariennir gan grant bach gan Lywodraeth Cymru. Bydd y canlyniadau ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru.