Mwy o Newyddion
Carreg heddwch arbennig yn galw heibio i Abertawe
Mae carreg fawr wedi galw heibio i Abertawe cyn dechrau taith a fydd yn dod i ben ar y ffin rhwng UDA a Chanada.
Mae'r garreg las o'r Preseli wedi'i dosbarthu i fynedfa Gerddi Botaneg Cyngor Abertawe yn Singleton a bydd yn y pen draw'n mynd i'r Ardd Heddwch Ryngwladol rhwng Gogledd Dakota a Manitoba.
Daw'r garreg las mewn ymateb i wahoddiad a gafwyd ar ddiwrnod y Briodas Frenhinol yr haf diwethaf i garreg gynrychioli Prydain Fawr yn yr ardd.
Mae cerrig gleision yng nghanol Côr y Cewri ac mae'r garreg wedi'i dewis fel symbol o garreg eni Prydain. Mae wedi'i rhoi gan Preseli Bluestone o Sir Benfro a bydd yn teithio o gwmpas y DU cyn mynd i'r Ardd Heddwch Ryngwladol.
Mae'r ardd yn ymrwymedig i heddwch byd-eang ac yn cynnwys 2,000 o erwau.
Bydd y garreg Brydeinig yn ymuno â cherrig eraill o bob rhan o'r byd yn yr Ardd Heddwch yn 2013.
Mae gr?p o'r enw Cylch Cyfeillgarwch yn helpu i gydlynu taith y garreg ar draws y DU a'i thaith yn y pen draw i Ogledd America.
Meddai Graham Burgess, o'r Cylch Cyfeillgarwch, "Lle bynnag rydych yn sefyll, mae carreg oddi tanoch a dyma un o'r pethau sy'n gyffredin i bawb ar draws y byd. A'r llall yw cyfeillgarwch dynol.
"Does dim gwahaniaeth beth yw'ch oedran, eich crefydd na'ch hil achos bod cyfeillgarwch yn gyffredin i bawb.
"Un o'r rhesymau y dewiswyd Singleton fel y lle cyntaf i'r garreg stopio yw bod y garreg yn dod o Gymru ac rydym am i'r Cymry gyffwrdd â'r garreg gyntaf."
Yn y pen draw, bydd y garreg mewn safle canolog ar y 49fed gyflin sy'n gwahanu UDA a Chanada fel rhan o Gylch Cyfeillgarwch sy'n cynnwys cerrig o bob rhan o'r byd.
Meddai'r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, "Mae'r Ardd Heddwch Ryngwladol yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae'r neges y mae'n ei chyfleu'n arbennig o addas yng ngoleuni gwrthdrawiadau parhaus ar draws y byd.
"Bydd ymweliad y garreg a ddewiswyd i gynrychioli Prydain ag Abertawe'n galluogi pobl leol i fod y cyntaf i'w gweld cyn iddi deithio ar draws Prydain ar ei ffordd i Ogledd America."
Bydd y garreg wrth fynedfa Gerddi Botaneg Singleton tan ddiwedd mis Ionawr o leiaf.
Ewch i www.peacegarden.com am fwy o wybodaeth.