Mwy o Newyddion
Ffyrdd yn elwa o driniaeth PATCH
Mae ffyrdd Abertawe wedi elwa o gynllun atgyweirio sydd wedi helpu i ailwynebu mwy na 16,000 o fetrau sgwâr o ffyrdd.
Cyflwynodd Cyngor Abertawe'r cynllun gwella ffyrdd o'r enw Gweithredu Blaenoriaeth ar gyfer Priffyrdd Cymunedol (PATCH) yn ystod 2010.
Dengys yr ystadegau diweddaraf fod bron 1,000 o atgyweiriadau wedi'u gwneud dan gynllun PATCH yn ystod 2011, gan ddefnyddio bron 4,000 o dunelli o ddeunyddiau ar draws 16,474 o fetrau sgwâr.
Mae'r cynllun yn cynnwys rhaglen dreigl o waith dros gyfnod o 36 wythnos gyda thimau cynnal a chadw priffyrdd arbennig yn treulio pythefnos ym mhob ward yn Abertawe er mwyn targedu'r ffyrdd sydd yn y cyflwr gwaethaf.
Meddai John Hague, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd: "Mae cynllun PATCH yn sicrhau bod ffyrdd ym mhob ward yn Abertawe yn cael eu hadnewyddu.
"Rydym wedi cael llawer o adborth da gan y cyhoedd ers i ni lansio'r cynllun. Mae'n amlwg bod y cyhoedd am weld ffyrdd sydd mewn cyflwr da. Mae cynllun PATCH yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r adnoddau sydd gennym yn y ffordd orau i wella'n ffyrdd ar draws Abertawe."
Mae'r cynllun PATCH ar ben y gwaith cynnal a chadw cynlluniedig megis cynlluniau adnewyddu ffyrdd sylweddol ac atgyweiriadau brys oherwydd tyllau.
Meddai Carl Humphrey, Pennaeth Strydlun Cyngor Abertawe: "Rydym wedi cwblhau ail flwyddyn menter PATCH sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gyflwr y ffyrdd yn Abertawe.
"Ar y cyd â'n rhaglen dymor hir i gynnal a chadw priffyrdd, rydym wedi gallu targedu rhannau ychwanegol o ffyrdd ar draws Abertawe a'u hadnewyddu."
Mae'r cyngor wedi cadarnhau y bydd cam nesaf gwaith gwella PATCH yn dechrau ym mis Mawrth 2012.
Gall trigolion roi gwybod am ddiffygion ar y priffyrdd drwy ffonio llinell frys priffyrdd y cyngor am ddim ar 0800 132081.