Mwy o Newyddion
Cyngor a Chymorth Sir Gaerfyrddin yn paratoi ar gyfer ei gynhadledd gyntaf
Mae trefniadau ar waith i gynnal cynhadledd gyntaf Cyngor a Chymorth Sir Gaerfyrddin (ASC) a thlodi plant fydd yn ganolog i agenda’r gynhadledd.
Mae ASC yn rhwydwaith o sefydliadau sy'n cydweithio i roi cymorth i unigolion a theuluoedd gyda'r prif bwyslais ar helpu pobl i drechu tlodi a dyledion drwy eu cynorthwyo i gael cyngor, budd-daliadau, gwelliannau i'r cartref, cyflogaeth a hyfforddiant.
Crëwyd ASC yn 2010 yn rhan o ymgyrch cydlynus i helpu cymunedau i ddelio â'r fath faterion.
Ymhlith aelodau'r rhwydwaith y mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Age Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, Mencap, Gweithlu Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyngor ar Bopeth.
Cynhelir y gynhadledd rhwng 9.30am a 12.30pm ddydd Llun, 20 Chwefror yn Neuadd Goffa Llandybïe, a'r nod fydd rhoi cyd-destun cenedlaethol i sefyllfa Sir Gaerfyrddin a nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y sir.
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, fydd y siaradwr gwadd a'r prif ganolbwynt fydd tlodi plant.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Cadeirydd ASC: "Bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at rai o'r prosiectau a'r gwaith sy'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd a chynlluniau a datblygiadau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle i aelodau ASC archwilio sut y gallant helpu i wneud gwahaniaeth mawr, a hynny drwy weithio mewn partneriaeth."
Mae'r gynhadledd yn dilyn lansio gwefan ASC yn ddiweddar sef www.asccarmarthenshire.co.uk
Datblygwyd y wefan i roi pobl sy'n ansicr ynghylch lle i gael cymorth ar y trywydd iawn.
Yn ogystal â dolenni i'ch cysylltu â mudiadau sy'n bartneriaid i ASC, mae'r wefan hefyd yn cyfeirio ei defnyddwyr at dudalennau cynghori lle gallant gael cymorth ynghylch materion sy'n cynnwys y Lwfans Gweini, Credydau Treth Gwaith, y Lwfans Byw i'r Anabl, cyflogaeth a hyfforddiant, a hyd yn oed prydau ysgol am ddim.
Yn ogystal, gall pobl edrych ar y wefan i ddysgu sut gallant leihau eu costau tanwydd drwy sicrhau bod eu cartrefi'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon neu hyd yn oed i gael gwybod pwy sy'n gallu helpu os ydynt wedi cael arian gan fenthyciwr arian anghyfreithlon.
Ychwanegodd y Cynghorydd Madge: “Pan fydd pobl yn chwilio am gymorth, yn aml nid ydynt yn gwybod pa ffordd i droi ac rydym yn deall y gallant ddrysu wrth weld yr holl sefydliadau sydd ar gael. Dyna pam aethom ati i ddatblygu Cyngor a Chymorth Sir Gaerfyrddin gan ei fod yn dod â phopeth ynghyd mewn un man.
“Mae'r wefan yn helpu pobl drwy eu cyfeirio at y gwasanaeth iawn i ddiwallu eu hanghenion ac rydym yn gobeithio y bydd yn eu hatal rhag mynd ar goll yn y system.”
I gael rhagor o wybodaeth am ASC ac i neilltuo lle yn y gynhadledd ffoniwch 01267 234567 neu anfonwch e-bost i asc@sirgar.gov.uk