Mwy o Newyddion
Galw am Drydaneiddio Rheilffordd y Gogledd
Gallai trydaneiddio rhwydwaith reilffyrdd gogledd Cymru roi help sylweddol i economi’r gogledd, meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones.
Yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth y DG y buddsoddir £33bn mewn lein reilffordd Cyflymder Uchel rhwng Llundain a Birmingham, dylai Cymru dderbyn £1.9bn neu gyllid cyfatebol. Galwodd Mr Jones am ran o’r cyllid i gael ei fuddsoddi mewn gwell rheilffyrdd ar hyd arfordir y gogledd ac i lawr i Gaerdydd.
Gallai buddsoddiad o’r fath yn rheilffordd y gogledd greu hwb sylweddol i economi’r rhanbarth, meddai Arweinydd Plaid yng Ngwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards. Byddai’n denu busnesau i’r ardal, yn creu swyddi a hefyd yn rhoi hwb y mae mawr ei angen i ddiwydiant ymwelwyr yr ardal. Byddai hefyd yn gwella cysylltiadau i Iwerddon trwy borthladd Caergybi.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi , Alun Ffred Jones: “Mae llywodraeth y DG wedi cyhoeddi’r buddsoddiad enfawr hwn fydd yn gwella cysylltiadau teithio rhwng Llundain a Gogledd Lloegr, ac os ydynt yn gwario symiau mor fawr yn Lloegr, mae’n amlwg y dylai cyllid cyfatebol gael ei roi i Gymru. Rhaid i ni yn awr bwyso am wella’r cysylltiadau i’r gogledd a’r tu mewn i’n rhanbarth, neu mae gwir berygl y cawn ein gadael â system reilffyrdd ail neu drydedd radd.
"Rydym wedi amcangyfrif y byddai modd trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru am £300m. Rydym felly’n galw am i ran o’r cyllid dilynol o’r HS2 gael ei roi i Gymru fel y gallwn weithredu yn gadarnhaol a gwella’r seilwaith sydd mor hanfodol i’n datblygiad economaidd.”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae’r argyfwng economaidd presennol eisoes wedi taro ein heconomi lleol, ac y mae’n gywilydd o’r mwyaf nad ydym ni’n rhan o gynlluniau clymblaid y DG am reilffyrdd cyflym iawn. Y cyfan mae hyn yn wneud yw dangos nad ydym yn flaenoriaeth i lywodraeth Llundain. Mae ardaloedd fel Gwynedd yn wynebu problemau difrifol wrth i’r economi ddirywio ymhellach, ac ardaloedd felly sydd angen cefnogaeth llywodraeth y DG trwy raglen o fuddsoddi mewn rheilffyrdd, nid hybu de-ddwyrain Lloegr sydd eisoes yn ffyniannus.
“Byddai gwell cysylltiadau o’r ardal hon i weddill Cymru, ac yn wir i’r rhwydwaith drafnidiaeth Ewropeaidd, yn hwb mawr i ni - a byddai ein busnesau a’n diwydiant twristiaeth yn elwa’n fawr. Pwy sy’n sicrhau fod Cymru ac ardaloedd fel Gwynedd a’r gogledd yn cael eu cyfran deg o’r buddsoddiad enfawr hwn? Mae’n amlwg bod yn rhaid i’r Blaid barhau i bledio achos Cymru bob cyfle a gaiff.