Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2012

'Ffars' iaith Cyngor Merthyr – ymchwiliad yn dechrau

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad swyddogol i mewn i Gyngor Merthyr, yn dilyn cwynion am iddynt fethu â darparu nifer o wasanaethau sylfaenol yn Gymraeg.

Mewn llythyr at Jamie Bevan, aelod o gell Merthyr Tudful Cymdeithas yr Iaith, fe ddywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:"Fel y gwyddoch efallai, mae’r Bwrdd wedi bod mewn gohebiaeth ffurfiol gyda Chyngor Merthyr Tudful yn dilyn ei benderfyniad i lansio gwefan newydd uniaith Saesneg ym mis Hydref… mae achos y wefan a’r honiadau a’r cwynion sydd wedi cyrraedd y Bwrdd yn yr wythnosau diwethaf yn codi amheuon difrifol am gyflawniad Cynllun Iaith y Cyngor.

“Ar ôl ystyried y dystiolaeth, mae’r Bwrdd wedi penderfynu cynnal ymchwiliad statudol i gyflawniad y Cynllun Iaith. Rydym eisoes wedi hysbysu’r Cyngor o’r penderfyniad. Caiff yr ymchwiliad ei gynnal mor fuan â phosibl gan anelu i orffen casglu tystiolaeth erbyn diwedd Chwefror a llunio adroddiad yn dilyn hynny…”

Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhuddo’r Cyngor o doriadau cyson a difrifol o'i gynllun iaith. Mabwysiadodd y Cyngor ei gynllun iaith cyntaf yn ôl yn 1998, ond yn ôl y grŵp pwyso, mewn cyfarfod diweddar rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r Cyngor cyfaddefodd swyddogion y Cyngor ei fod yn torri’r Cynllun Iaith yn rheolaidd, gyda ffurflenni, negeseuon ffôn a gohebiaeth swyddogol yn anwybyddu ymrwymiadau i ddwyieithrwydd.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Jamie Bevan: “Rydw i'n croesawu penderfyniad Bwrdd yr Iaith. Rydyn ni ym Merthyr wedi aros llawer rhy hir am chwarae teg a gobeithiwn nawr y bydd hwn yn gam arwyddocaol tuag at newid agwedd o fewn y cyngor tuag at yr iaith Gymraeg a’i siaradwyr.’

Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Gyda chynifer o blant yn mynd trwy addysg Gymraeg, mae'r cyngor yn gadael, nid yn unig y cyhoedd i lawr, ond, hefyd yn colli cyfle i ddefnyddio sgiliau'r genhedlaeth newydd. Cenhedlaeth sy'n dod trwy'r system addysg yn rhugl yn Gymraeg. Felly, mae methiant y Cyngor i lynu at ei gynllun iaith ei hunan yn tanseilio'r iaith ar lefel gymunedol. Mae gyda nhw gyfle i gadw pobl ifanc yn yr ardal a defnyddio eu sgiliau iaith unigryw nhw. Nid yw'n gwneud synnwyr yn economaidd nag yn ieithyddol i'r Cyngor beidio â newid ei ymddygiad.

“Mae hyn yn enghraifft arall o wendid y system cynlluniau iaith. Gobeithiwn y bydd Comisiynydd y Gymraeg a fydd yn dechrau ei swydd cyn bo hir yn sicrhau na welwn ni achosion fel hyn bellach. Mae problemau tebyg mewn nifer o gynghorau eraill yn y De, felly rydyn ni wrthi'n cynnal arolwg o'r holl gynghorau yn yr ardal.”

 

Llun: Meri Huws

Rhannu |