Mwy o Newyddion
Mwynhewch wyliau go iawn yng Nghymru yn 2012
Dechreuodd cam nesaf ymgyrch farchnata Croeso Cymru yr wythnos yma, gyda’r nod o ddangos i bobl sut y gallan nhw gael gwyliau go iawn yn ystod 2012.
Mae’r hysbysebion ar y teledu yn dangos pobl go iawn sydd wedi’u siomi gan wyliau tramor yn y gorffennol, gyda’r gwyliau ‘ymlacio yn yr haul’ arferol yn golygu nad oedd ganddyn nhw unrhyw atgofion na phrofiadau.
Mae un o’r hysbysebion hyn yn cynnwys Piers Bramhall, ddaeth yn berson enwog dros nos pan gafodd ei ddewis i gymryd rhan yn yr ymgyrch farchnata ddiweddaraf hon a arweiniodd at wythnos o wyliau yng Nghymru, gan ddefnyddio cynigion ac awgrymiadau oedd wedi dod drwy Facebook a Twitter.
Bydd yr hysbyseb yn dangos rhai o’r profiadau a gafodd yn ystod ei ymweliad â Chymru. Cafodd daith ar gwch gyflym, aeth ar feic mynydd ar draws cefn gwlad Cymru, aeth i ddistyllfa wisgi, dysgodd fynd ar fwrdd syrffio, chwarae golff ar gwrs golff 2010 gwesty’r Celtic Manor, cerddodd ar hyd Lwybr yr Arfordir, dysgodd sut i ganu opera, a nifer fawr o weithgareddau eraill sy’n dangos faint sydd gan Gymru i’w gynnig.
Sêr eraill yr ymgyrch yw teulu’r Darkes o Huddersfield, a gafodd eu siomi wedi eu gwyliau diweddar yn Gran Canaria. Daethant i Gymru am wyliau go iawn, ac yn ystod eu pum niwrnod cawsant hwyl ym Mharc Gelli Gyffwrdd, ar gar sglefrio (roller coaster) sy’n cael ei yrru gan bŵer dynol, aethant i gastell Caernarfon, dysgu gwneud lloches a phryd o fwyd sylweddol yng nghanol y goedwig, mynd ar bicnic eithafol yn Eryri, syrthio mewn cariad â Phortmeirion, gwersyllfa mewn twyni tywod, merlota drwy Aberhonddu a herio’u gilydd i ddringo’n uwch yn Llan-gors.
Meddai Edwina Hart y Gweinidog Busnes: “Mae’r ymgyrch farchnata hon yn mynd y tu hwnt i’r dull confensiynol o ddweud wrth bobl beth sy’n dda am Gymru – mae mewn gwirionedd yn dangos pobl go iawn yn cael gwyliau gwych yng Nghymru ac yn gadael gydag atgofion a phrofiadau rhagorol. Bydd yr ymgyrch hwn yn gwneud yn siŵr bod Cymru yn sefyll allan wrth gymharu ei hun â’r cyrchfannau sy’n cystadlu â hi ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.”
Mae'r hysbysebion ar gael ar www.youtube.com/visitwales gyda’r hysbyseb yn cael ei gweld am y tro cyntaf yn ystod oriau gwylio brig ar ITV am 21.15 y ystod y ddrama dditectif “Above Suspicion”. Bydd yr hysbyseb yn ymddangos yn rhanbarthau Carlton, Central, HTV West and Meridian ITV yn ystod y rhaglen sydd yn denu tua 20% o’r gynulleidfa teledu rhwng 9pm – 10pm. Fe fydd yr hysbysebion hefyd yn cael eu rhedeg ym mis Mawrth yn arwain at wyliau’r Pasg.
Bydd yr ymgyrch yn targedu marchnadoedd craidd Cymru ym Mhrydain – y Canolbarth a Gogledd-orllewin Lloegr a marchnadoedd newydd fel Llundain a’r De-ddwyrain.
I ddilyn yr hysbysebion ar y teledu, bydd ymgyrch farchnata ar-lein ac all-lein yn digwydd yn Chwefror 2012. Bydd Wales View, y cylchgrawn gwyliau blynyddol hefyd ar gael ym mis Ionawr, a bydd yn cael ei anfon at 20,000 o ddefnyddwyr, sydd wedi mynegi diddordeb yng Nghymru fel cyrchfan wyliau.