Mwy o Newyddion
Rhaid i Gymru elwa o Gomisiwn Cyfansoddiadol West Lothian
Wrth ymateb i gyhoeddiad comisiwn y Ty Cyffredin ar Gwestiwn West Lothian, dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru fod gan dermau cyfeirio’r comisiwn ffocws rhy gul i ddelio gyda’r materion sy’n codi o gael un Senedd i Loegr a Phrydain.
Dywedodd Mr Edwards hefyd mai’r broblem ar gyfer Cymru yw nid y nifer fechan o ASau Celtaidd sy’n pleidleisio ar faterion Seisnig, ond dominyddiaeth y Ty Cyffredin gan ASau Seisnig a’u materion, yn cynnwys gweithrediad Fformiwla Barnett anheg Llafur a’r deddfwriaethu Seisning sy’n cael effaith ar Gymru.
Dywedodd Mr Edwards: “Yng nghyd-destun y newidiadau mawr sy’n cymryd lle o ganlyniad i’r refferendwm Albanaidd, dim ond cyffwrdd ar y materion pwysicaf wna’r comisiwn hwn.
“Y pwynt yw fod Lloegr angen ei senedd ei hun fel y gall y bedair gwlad ddelio gyda’i gilydd ar lefel gyfartal.
“Dyna ddylai’r cam cyntaf fod, ond caiff hynny ei wrthod gan dermau cyfeirio cul y comisiwn sy’n delio gyda Senedd bresennol San Steffan yn unig.
“Mae angen datod y system bresennol.
“Yn gyntaf, mae hynny’n gofyn am gael gwared ar fformiwla anheg Llafur, Fformiwla Barnett, a thorri’r cyswllt rhwng ariannu Lloegr a’r dair gwlad arall fel nad oes effaith ariannol o ganlyniad i ASau di-Seisnig yn pleidleisio ar faterion Seisnig.
“Gallwn wedyn sefydlu system i ariannu Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar anghenion.
“Yn ail, dylai gwneud newidiadau i’r setliad cyfansoddiadol Cymreig fel yr argymhellodd Comisiwn Richard nol yn 2004 fel y gallwn weld yn gliriach pa ddeddfwriaeth sy’n effeithio Lloegr yn unig, a datod cyfreithiau Seisnig a Chymreig.
“Er enghraifft, yn sesiwn bresennol y Senedd, mae bron yr holl deddfwriaeth yn effeithio ar Gymru oni bai am Fesur yr Alban ac ychydig o ddeddfwriaethu ar ysgolion. Mae hyn yn golygu na fyddai ‘English Votes for English Laws’ yn gwneud prin ddim gwahaniaeth i ASau Cymreig yn pleidleisio, ac yn methu’r pwynt y mae’r llywodraeth glymblaid yn ceisio ei wneud.
“Rwyf felly yn falch fod Syr Emyr Jones Parry yn rhan o’r comisiwn gan y bydd ei ddealltwriaeth o Gymru o fewn cyd-destun cyfansoddiadol y DU yn helpu i wneud y pwyntiau hyn yn glir.”
Llun: Jonathan Edwards