Mwy o Newyddion
Chwilio am ateb i broblem defnyddio llywiwr lloeren ar ffyrdd bach gwledig
Mae atal lorïau rhag tarfu'n anfwriadol ar wasanaethau'r amlosgfa yn Heol Penprys, Llanelli yn gryn broblem.
Er gosod arwydd Cymraeg a Saesneg sy'n esbonio bod y ffordd yn anaddas i gerbydau cludo nwyddau, ynghyd â gosod arwydd â symbol sydd wedi ei gymeradwyo'n rhyngwladol er mwyn dangos nad yw'r llwybr yn addas i lorïau sy'n defnyddio technoleg llywiwr lloeren, mae cynifer â 12 o lorïau mawr yn mynd i drafferthion yn y cyffiniau bob wythnos.
Mae rhai o'r cerbydau cludo nwyddau hynny'n troi i dir yr amlosgfa er mwyn ceisio osgoi'r ffordd gul sy'n mynd i Felin-foel ac i'r ffatri geir.
Ac mae llawer o'r lorïau mawrion yn gorfod cael cymorth gan yr heddlu i fynd wysg eu cefnau i'r gylchfan ar y ffordd fawr gan beri bod y traffig ar stop a bod trafferthion yn yr amlosgfa.
Dywed rheolwyr yr amlosgfa fod gyrwyr lorïau sydd wedi troi i'r ffordd anghywir drwy ddibynnu ar systemau llywio lloeren sydd heb eu diweddaru yn dal i darfu ar angladdau yno.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gosod arwyddion ysgrifenedig dwyieithog ac arwyddion rhybuddio sy'n arddangos symbolau cydnabyddedig, ond mae trafferthion o hyd ar Heol Penprys, Llanelli er bod trefn y ffyrdd yn y cyffiniau wedi newid adeg codi'r amlosgfa.
Cynhelir uwchgynhadledd gan y llywodraeth ym mis Mawrth i drafod problemau tebyg ledled Prydain. Bydd y Gweinidog Trafnidiaeth Leol, Norman Bakerhosts, yn cynnal trafodaethau i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i ofalu nad yw cerbydau mawr yn defnyddio ffyrdd anaddas.
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod mater yr arwyddion yng nghyffiniau'r amlosgfa yn cael ei drafod unwaith eto, er mwyn ystyried awgrymiadau y gellid defnyddio ieithoedd ychwanegol i rybuddio gyrwyr o dramor nad oedd y ffordd yn addas i gerbydau mawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ei swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau â'r Adran Drafnidiaeth a'r Asiantaeth Priffyrdd yn Lloegr gyda golwg ar geisio datrys y problemau hyn.
Mae arwydd arbennig, sydd yn cynghori modurwyr i beidio â dilyn llwybr penodedig, wedi bod ar brawf yn Sir Gaerfyrddin am ryw 12 mis gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru. Mae'r arwydd arbrofol yn dangos lloeren, sydd â llinell goch ar ei thraws, yn wynebu tuag at i lawr.
Yn ôl John McEvoy, Rheolwr Trafnidiaeth a Gwasanaethau Parcio y Sir: “Gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru bu inni godi'r arwyddion hyn mewn amryw o fannau gan gynnwys yr U2187 yn Nant-y-caws; Heol Henfwlch, Caerfyrddin; Heol Maeslan, Llangynnwr; yr U4110 yng Nghwm-ann ger Llanbedr Pont Steffan; Heol y Brenin, Caerfyrddin; Heol Penprys ger amlosgfa Llanelli; ac yng nghyffiniau Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi.”
Dywedodd Philip Hughes, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Trafnidiaeth: “Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r arwydd arbrofol ac wedi penderfynu ar arwydd diwygiedig sy'n rhybuddio gyrwyr cerbydau mawr rhag defnyddio llwybr penodedig. Nid yw'r arwydd newydd yn dangos symbol o 'loeren'. Ond rydym wedi gosod y ddau arwydd yng nghyffiniau Penprys, ac mae gyrwyr yn dal i'w hanwybyddu."