Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2012

Hoffech chi fod yn Is-Lywydd nesaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad swydd ar gyfer Is-Lywydd newydd i’r Llyfrgell.

Daw hyn yn sgil ymddeoliad Arwel Ellis Owen wedi tymor o bedair blynedd o wasanaeth. Bydd yr Is-Lywydd yn cyd-weithio’n agos â Llywydd newydd y Llyfrgell, Syr Deian Hopkin ac aelodau’r Bwrdd.

‘Bu Arwel Ellis Owen yn Is-Lywydd penigamp i’r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd wastad yn barod iawn i ymgymryd â dyletswyddau'r swydd yn Aberystwyth a hefyd y tu allan i’r adeilad gan ddefnyddio'i allu a’i ddawn diamheuol er budd y sefydliad a Chymru,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw 2 Chwefror 2012.

Am fanylion pellach a ffurflen gais, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.


Am fanylion pellach am y Llyfrgell Genedlaethol a'r swydd Is-Lywydd, cysylltwch â Pedr ap Llwyd, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chlerc y Bwrdd:
pedr.ap.llwyd@llgc.org.uk | 01970 632952

Rhannu |