Mwy o Newyddion
Arddangosfa'n adrodd stori ffoaduriaid Iddewig yn ne Cymru
Mae arddangosfa newydd yn agor yn Abertawe sy'n adrodd stori ffoaduriaid Iddewig o'r rhannau o Ewrop a oedd dan oresgyniad y Natsïaid a ddaeth i fyw yn ne Cymru yn ystod y blynyddoedd cythryblus cyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r arddangosfa'n adrodd straeon trist oedolion a phlant Iddewig o Ganolbarth a Dwyrain Ewrop a gyrhaeddodd de Cymru ar ôl i Hitler ddod i rym ym 1933. Daethant o wledydd a chefndiroedd gwahanol ond roeddent i gyd yn ffoi rhag Natsïaeth.
Enw'r arddangosfa yw Ffoaduriaid Iddewig yn ne Cymru rhwng 1933 a 1945 a bydd ar gael yng nghyntedd y Ganolfan Ddinesig o 10 Ionawr tan 5 Chwefror. Mae wedi'i threfnu gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg fel rhan o weithgareddau Diwrnod Coffáu'r Holocost Cyngor Abertawe - digwyddiad a gynhelir bob blwyddyn yn y DU o 27 Ionawr.
Mae rhan o'r arddangosfa'n adrodd hanes y Kindertransport, yr ymgyrch gan y llywodraeth i achub plant Iddewig o'r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia.
Cafodd 10,000 o blant eu helpu gan grwpiau a oedd yn pryderu yn y DU i ddianc o'r Trydydd Reich cyn dechrau'r rhyfel ym 1939.
Wedi iddynt gyrraedd gwersylloedd derbyn ar arfordir dwyreiniol Lloegr, anfonwyd y plant i deuluoedd ledled y DU, lle cawsant gartref gyda rhieni maeth - ac roedd llawer ohonynt yn byw yn ne Cymru. Ni welodd llawer o'r plant hyn eu rhieni byth eto.
Mae rhan arall o'r arddangosfa'n disgrifio cyfraniad ffoaduriaid Iddewig at economi a bywyd diwylliannol de Cymru. Mae'n adrodd stori rhai o'r entrepreneuriaid Iddewig a gafodd eu hannog gan Lywodraeth Prydain i sefydlu ffatrïoedd ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd a sut y crëwyd swyddi gan y cwmnïau hyn mewn ardal o ddiweithdra torfol.
Mae'r arddangosfa hefyd yn dathlu cyfraniad ffoaduriaid meddygol Iddewig a fu'n gweithio fel meddygon, deintyddion a nyrsys yn ne Cymru. Helpodd y ffoaduriaid meddygol hyn i godi safon gofal iechyd yng Nghymru ar ôl sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948.
Caiff dylanwad artistiaid émigré, megis Heinz Koppel a Josef Herman, ar gymuned gelfyddydol de Cymru ei archwilio hefyd.
Mae grant gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i wneud yr arddangosfa'n bosib.
Meddai'r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, "Un o amcanion trawsnewid hen adeilad Neuadd y Sir yn Ganolfan Ddinesig ychydig flynyddoedd yn ôl oedd creu man lle gall aelodau'r cyhoedd weld arddangosfeydd diddorol am ein treftadaeth gyffredin.
"Mae'r arddangosfa hon yn ysgogi'r meddwl a'r emosiynau ond mae hefyd yn ysbrydoliaeth oherwydd ei bod yn dangos sut gall ffoaduriaid gael effaith gadarnhaol ar gymunedau sy'n cynnig lloches iddynt.
"Mae hyn yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn y 1930au a'r 1940au.
Ffoniwch Kim Collis, Archifydd y Sir yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ar 01792 636760 am fwy o wybodaeth.