Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2012

Campfa Awyr Agored yw'r Ateb i Le Chwarae yn Llandeilo

Mae campfa awyr agored y gall cymuned gyfan Llandeilo ei defnyddio, wedi cymryd lle hen bwll padlo a oedd wedi bod yn segur ers sawl blwyddyn.

Golyga rheolau’r cyllid grant sydd wedi rhoi bod i hyn fod y lle chwarae ym Mharc Le Conquet, y rhoddwyd yr offer ffitrwydd iddo, wedi'i ddiogelu i’r cenedlaethau sydd i ddod, a hynny yn sgil gweithred gyflwyno sy'n gysylltiedig â'r jiwbilî frenhinol.

Mae Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gweithio gyda Meysydd Chwarae Cymru (FIT) a WREN (Waste Recycling Environmental Limited) i gael cyllid grant er mwyn darparu offer ffitrwydd i'w defnyddio yn yr awyr agored.

Mae'r parc wedi'i sefydlu yn Faes y Frenhines Elizabeth yr Ail a diogelir y maes drwy Weithred Gyflwyno Fields in Trust sydd i bob pwrpas yn golygu y bydd y parc yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth fel man agored cyhoeddus.

Cafwyd £27,000 drwy WREN sydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda FIT ar gynllun y Frenhines Elizabeth yr Ail gyda'r nod o ddiogelu 2012 o barciau cyhoeddus ledled Prydain erbyn trigain mlwyddiant y Frenhines Elizabeth yr Ail yn 2012.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Hamdden: “Mae hon yn enghraifft wych o'r modd y gall y Cyngor ddiogelu parcdir gwerthfawr drwy gydweithio ag asiantaethau eraill a gofalu y caiff y parcdir ei ddefnyddio o’r newydd gan gymunedau cyfan.

“Mae rheolwyr y pyllau padlo wedi gorfod gwneud llawer o waith i'w cynnal a'u cadw ac yn yr oes hon o iechyd a diogelwch, mae bron yn amhosibl cynnal a chadw'r pyllau.

“Gyda chanolfannau hamdden ledled y sir yn cynnig cyfleoedd i bobl nofio'n ddiogel, mae addasu Parc le Conquest yn ateb delfrydol er mwyn i'r rhan hon o'r parc gael ei defnyddio mewn modd gwahanol a gwell gan gyfran fwy o’r gymuned.

“Mantais hyn hefyd yw ei bod yn diogelu dyfodol y parc dan weithred ymddiriedolaeth meysydd a ddiogelir sydd wedi dod â'r cyllid sydd wedi gwneud y datblygiad yn bosibl.”

Rhannu |