Mwy o Newyddion
Gwasanaethau Cyflenwi Alcohol 24 awr yn risg angheuol i alcoholigion
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, roedd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau’n ymweld ag alcoholig oedd mewn brwydr barhaus gyda dibyniaeth ar alcohol.
Roedd yr hyn oedd yn ei wynebu wrth iddo groesi rhiniog y drws ffrynt yn ‘ymddangos fel uffern’.
Mewn blog diweddar, disgrifiodd Wynford gartref yr alcoholig fel carchar "…Alcoholig oedd yn dal i ddioddef ac yng ngwewyr dibyniaeth gyda chyfog ymhob man - mewn bowlenni Pyrex ac ar blatiau; ar y soffa; ar y carped; yn y sinc ar ben yr holl blatiau budr oedd yn mwydo mewn dŵr; dros yr ystafell ymolchi ymhob man; ei chlustog yn wlyb socian a’r drewdod yn treiddio i bob rhan o’r fflat. Mae’r alcoholig hon yn cael ei chyflenwi ag alcohol gan fath newydd o ‘bariah’, y gwasanaeth cyflenwi alcohol i’r cartref. Gall gysylltu â’r rhain drwy’r cyfrifiadur neu ffonio yn ystod y nos.
"Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae gweithgynhyrchwyr wedi bod yn rhoi’r geiriau “Mwynhewch Jack Daniels/Jacobs Creek/Stella Artois yn gyfrifol” yn eu hysbysebion gan roi’r cyfrifoldeb dros ddeilliannau yfed ar ysgwyddau’r yfwr.
"Onid yw’n bryd i’r gweithgynhyrchwyr diodydd yn awr anfon neges debyg i fân werthwyr a chyfanwerthwyr diodydd alcohol, gan ddweud wrthyn nhw ‘Gwerthwch ein cynnyrch yn gyfrifol’?
"Mae’r arfer masnachol o werthu alcohol drwy gyflenwi i’r cartref 24 awr y dydd yn gwneud y gair anghyfrifol braidd yn ddiangen. Nid oes unrhyw reol gyfreithiol yn erbyn yr arferiad hwn, ac yn wahanol i werthu alcohol mewn eiddo trwyddedig, nid oes unrhyw gosb am werthu alcohol i berson meddw neu i berson o dan oed.
"Gan ei bod yn debyg bod y farchnad lle mae gwin neu gwrw’n gorffen yn annisgwyl mewn partïon hwyr yn gymharol fechan, cred Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill fod y fasnach hon yn ffynnu ar alcoholigion ac mae wedi cael hyd i un enghraifft lle mae hyn yn amlwg yn digwydd.
"Rhaid i’r llywodraeth, yng Nghymru ac yn San Steffan, weithredu i sicrhau bod y gwasanaeth newydd ac afreoledig hwn yn y diwydiant diodydd yn cael ei orfodi i lynu at y safonau cyfrifoldeb uchaf neu ei orfodi i beidio â masnachu.
"Fodd bynnag, y tu hwnt i weithredu’r llywodraeth, rhaid i’r gwerthwyr cyflenwi alcohol i gartrefi gymryd camau cadarn er mwyn gwahaniaethu eu hunain oddi wrth gyflenwyr cyffuriau cyffredin gan elwa o haen o gyfreithlondeb.
"Ni ddylid cymysgu’r ffaith ei bod yn gyfreithiol i werthu alcohol i alcoholig sy’n marw ar unrhyw awr o’r dydd neu’r nos gyda’r syniad ei bod yn iawn i wneud hynny. Dylai gwerthwyr cynnyrch dibyniaeth a gwenwynig fel alcohol fod â rhiniog llawer mwy moesegol na gwerthwyr eraill, o gofio’r risgiau i iechyd a lles y mae eu cynnyrch yn eu hachosi."
Sefydlwyd Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ym 1968 gan sawl enwad Cristnogol Cymreig. Ers i Wynford Ellis Owen gael ei benodi yn 2008, bu’r Cyngor yn gweithredu strategaeth gyffrous sy’n canolbwyntio ar hybu ‘Dewis a Byw Bywyd Cyfrifol.’ Un o gonglfeini’r strategaeth honno yw hwyluso sefydlu Yr Ystafell Fyw Caerdydd. Agorwyd y ganolfan adferiad am ddim, ddwyieithog sy’n ceisio torri cylch dibyniaeth ym mis Medi 2011. Gydag amser, bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i bob tref fawr yng Nghymru.