Mwy o Newyddion
Pleidlais Gwobrau’r Selar ar agor
Mae’n flwyddyn newydd, sy’n golygu tymor y gwobrau cerddorol blynyddol!
Unwaith eto eleni, bydd cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar, yn gwobrwyo’r cerddorion Cymraeg sydd wedi creu argraff dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae modd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefrynnau nawr.
Mae’r gwobrau blynyddol yn cynnwys 10 o gategorïau, ac am y drydedd flwyddyn yn olynol y cyhoedd fydd yn penderfynu ar yr enillwyr.
Bydd yna hefyd un categori arbennig ar gyfer ‘albwm gorau’r flwyddyn’ a fydd yn cael ei ddewis gan gyfranwyr ac ysgrifenwyr Y Selar.
“Mae’r gwobrau’n bwysig iawn i ni, ac yn crynhoi llwyddiannau’r flwyddyn a fu.” meddai golygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Y cyhoedd a darllenwyr Y Selar sy’n pleidleisio, a hynny trwy wefan y cylchgrawn, a dwi’n meddwl fod yr artistiaid yn gwerthfawrogi hynny.”
“Er ei bod yn amser caled i gerddorion Cymraeg yn arbennig, mae wedi bod yn flwyddyn dda ac mae’n bwysig i artistiaid weld fod y gynulleidfa yn gwerthfawrogi eu cynnyrch.”
Ymysg yr enillwyr llynedd oedd Jen Jeniro, Y Bandana, Yr Ods a Crash.Disco! - artistiaid sydd oll wedi mynd o nerth i nerth yn ystod 2011.
“Dwi’n reit siŵr fod gwobrau fel hyn yn rhoi hwb i’r artistiaid ac yn eu hannog i ddal ati” meddai Owain Schiavone.
“Wrth edrych ar enillwyr gwobrau 2010, mae Y Bandana ac Yr Ods wedi cael blwyddyn wych a rhyddhau albyms newydd yn 2011, tra bod Crash.Disco! a enillodd deitl y ‘band newydd gorau’ wedi rhyddhau cynnyrch cyntaf.
“Dwi’n teimlo bod gwobrau annibynnol fel hyn yn hollbwysig i’r sin, ac mae’r ffaith mai’r cyhoedd sy’n pleidleisio yn rhoi mwy o hygrededd iddyn nhw. Y neges felly ydy i gymaint â phosib o bobl fwrw eu pleidlais eleni.”
Mae modd pleidleisio am Wobrau’r Selar 2011 ar wefan y cylchgrawn www.y-selar.com. Mae’r bleidlais yn cau ar 10 Chwefror.
- Diwedd -
Nodiadau i’r golygydd:
- Dyma restr lawn y categorïau:
1. Sengl orau
2. EP gorau
3. Clawr CD gorau
4. Cân orau
5. Band newydd gorau
6. Artist unigol gorau
7. Digwyddiad byw gorau
8. DJ gorau
9. Hyrwyddwr gorau
10. Band gorau
- Mae rhestr lawn o enillwyr 2010 i’w canfod ar wefan Y Selar
- Ariennir Y Selar gan Gyngor Llyfrau Cymru a gwerthiant hysbysebion yn y cylchgrawn.
- Bydd rhifyn nesaf Y Selar yn cael ei gyhoeddi wythnos gyntaf mis Mawrth.
- Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Golygydd, Owain Schiavone ar 07813 050 145 neu yselar@live.co.uk