Mwy o Newyddion
Pryder awyrennau di-beilot
Mae yna bryderon y gallai cais gan Lywodraeth Cynulliad Cymru olygu y bydd awyrennau rhyfel di-beilot (drones) yn cael eu hedfan a'u profi yn Eryri eto.
Fe fu ffraeo a dadlau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â dyfodol Maes Awyr Llanbedr ger Harlech, a hynny wedi i gwmni awyrennau pleser fynegi eu bwriad i ddechrau cynnal tripiau o Lanbedr dros Fae Ceredigion ac Eryri.
Roedd nifer fawr wedi gwrthwynebu'r syniad hwnnw, ac fe fu ymgyrch fawr gan Gymdeithas Eryri ynghyd â chadwriaethwyr o barciau cenedlaethol Brycheiniog a Sir Benfro.
Ond mae Y Cymro yn gallu cadarnhau fod asiant ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, perchennog y safle, wedi cyflwyno cais i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a allai roi'r hawl i ail-ddechrau defnyddio'r lle at ddefnydd milwrol.
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwrthod gwneud sylw am hynny, dim ond cadarnhau fod cais wedi ei gyflwyno er mwyn ei gwneud hi'n haws i werthu'r safle “er budd yr economi leol”.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA/