Mwy o Newyddion
Argyfwng biliau tanwydd
Nid yw’r mwyafrif helaeth o rieni yng Nghymru sy’n ei chael hi’n anodd i wresogi eu tai y gaeaf hwn yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt gan y cyflenwyr ynni, yn ôl rhybudd gan elusen Achub y Plant.
Dim ond 3% o deuluoedd ym Mhrydain sydd mewn perygl o brofi tlodi tanwydd sydd yn elwa o gynllun Llywodraeth Prydain i helpu gyda chost biliau ar hyn o bryd a hynny oherwydd nad yw cyflenwyr ynni wedi neilltuo digon o arian ar ei gyfer am eleni.
Dengys ymchwil bod byw mewn tŷ sy’n oer ac yn llaith yn gallu arafu datblygiad plentyn, gwaethygu problemau iechyd tymor-hir fel y fogfa (asthma) ac arwain at gynnydd mewn cyfraddau mynediad i ysbytai.
Yn ôl Achub y Plant mae 800,000 o deuluoedd tlotaf Prydain yn gymwys ar gyfer disgownt gwerth £120 ar eu biliau tanwydd yn unol â’r Cynllun Disgownt Cartref Cynnes (Warm Home Discount scheme), ond oherwydd diffyg yn yr arian sydd ar gael dim ond 25,000 fydd yn elwa o’r cynllun.
Yn dilyn arolwg diweddar gan y cwmni cymharu USwitch pennwyd Cymru fel ‘prifddinas tlodi tanwydd Prydain’ gyda 32% o aelwydydd yn dioddef. Mae’r ymchwil newydd yma gan Achub y Plant yn datgelu bod o leiaf 45,280 o deuluoedd gyda phlant yng Nghymru yn gymwys ar gyfer Taliadau Tywydd Oer ond dywed nifer nad ydynt wedi clywed na derbyn unrhyw wybodaeth ar sut i wneud cais amdanynt.
Mae arolwg a gomisiynwyd gan Achub y Plant yn dangos bod nifer o’r rhieni a holwyd yn ystyried gorfod dewis rhwng talu am fwyd neu danwydd y gaeaf hwn, gyda dros hanner yn pryderu y bydd iechyd eu plant yn dioddef oherwydd bod tymheredd y cartef yn rhy oer.
Mae’r elusen yn galw ar gyflenwyr ynni a’r llywodraeth i lenwi’r bwlch ariannol yma ar frys fel y gall pob teulu sy’n gymwys ar gyfer y disgownt yma ei dderbyn. Mae angen i gwmnïau hefyd wella eu dulliau marchnata fel bod mwy o deuluoedd ar incwm isel yn ymwybodol ohono.
Meddai James Pritchard, pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae’n annerbyniol na fydd cynifer o deuluoedd incwm isel yng Nghymru sydd angen cymorth i wresogi eu tai y gaeaf hwn yn derbyn yr un geiniog yn syml oherwydd nad yw’r cyflenwyr ynni wedi neilltuo digon o arian ar gyfer y cynllun. Heb y cymorth yma mae penderfyniadau amhosib yn wynebu rhieni: torri yn ôl ar fwyd, mynd i ddyled neu roi iechyd eu plant yn y fantol. Mae angen i’r cyflenwyr ynni roi miliynau yn ychwanegol i mewn i’r cynllun, neu’r plant fydd yn talu’r pris.”
Datgela arolwg Achub y Plant i ba raddau y mae costau tanwydd uchel yn cael effaith ar rai o deuluoedd tlotaf Prydain (y rhai ar incwm aelwyd o lai na £12,000 y flwyddyn):
- roedd dros hanner y rhieni ar incwm isel gyda phlant dan 16 oed yn poeni y byddai iechyd eu plant yn dioddef oherwydd bod y tŷ yn rhy oer y gaeaf hwn.
- dywedodd bron i draean o’r rhai a holwyd yn yr arolwg na fyddent yn gallu fforddio talu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn.
- roedd bron i hanner (45%) yn ystyried torri yn ôl ar fwyd er mwyn gallu talu eu biliau tanwydd.
- dim ond 9% o rieni incwm isel a gymerodd ran yn yr arolwg a ddywedodd eu bod wedi clywed am y Disgownt Cartref Cynnes ac yn bwriadu ymgeisio amdano.
Mae nifer o deuluoedd ar incwm isel eisoes yn talu mwy am eu tanwydd oherwydd na allent dalu gyda debyd uniongyrchol neu dderbyn y tariffau rhataf.
Mae Achub y Plant yn galw ar:
- Y “chwe chyflennwr ynni mawr” i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys ar gyder Taliadau Tywydd Oer yn derbyn y Disgownt Cartref Cynnes. Byddai hyn yn gymorth i o leiaf 800,000 o deuluoedd tlotaf Prydain ac o leiaf 45,280 o deuluoedd yng Nghymru.
- yr holl gwmnïau ynni i roi cynlluniau ar droed i drosglwyddo eu cwsmeriaid sy’n talu gyda mesurydd talu ymlaen llaw a chwsmeriaid sydd mewn dyled gyda’u biliau i’r tariffau rhataf fel nad oes yn rhaid i deuluoedd ar incwm isel dalu mwy na sydd ei angen.
- lywodraethau Cymru a’r DU i gefnogi a buddsoddi mewn mesurau ynni effeithlon fel modd o leihau tlodi tanwydd i’r teuluoedd tlotaf.
- i integreiddio yn well gynlluniau Llywodraeth Cymru fel Arbed a Nest gyda chynlluniau cymorth sydd ar gael ar draws y DU er mwyn sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn gallu manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt.
Llun: Teulu o Lyn Ebwy ym Mlaenau Gwent yn closio o dan flanced i gadw'n gynnes y gaeaf hwn