Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2012

Cwyn swyddogol dros 'ffars' iaith Cyngor Merthyr

"FFARS LWYR”, dyna asesiad damniol ymgyrchwyr iaith o wasanaethau Cymraeg Cyngor Merthyr, mewn cwyn swyddogol at yr arolygwr awdurdodau lleol, wedi i’r awdurdod lansio gwefan uniaith Saesneg.

Mewn llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhuddo’r Cyngor o doriadau cyson a difrifol o'i gynllun iaith. Mabwysiadodd y Cyngor ei gynllun iaith gyntaf yn ôl yn 1998, ond yn ôl y grŵp pwyso, mewn cyfarfod diweddar rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r Cyngor cyfaddefodd swyddogion y Cyngor ei fod yn torri’r Cynllun Iaith yn rheolaidd, gyda ffurflenni, negeseuon ffôn a gohebiaeth swyddogol yn anwybyddu ymrwymiadau i ddwyieithrwydd .

Mae wedi dod i’r amlwg hefyd nad yw’r awdurdod yn adrodd ar bob gwyn ysgrifenedig oddi wrth gynghorwyr a Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan fynnu nad yw cwynion o’r fath yn cwrdd â rheoliadau a gweithdrefnau swyddogol y Cyngor.

Mae Jamie Bevan, aelod o’r Gymdeithas sy’n byw ym Merthyr Tudful, wedi ysgrifennu’r cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

"Rydym wedi gweld addewidion am flynyddoedd y bod pethau yn gwella yn y Cyngor o ran y Gymraeg ond mae hyd yn oed adroddiad y Cyngor ei hun yn cyfaddef nad ydyw wedi cyflawni bron dim o’i gynllun Iaith. Mae’n hen bryd i Fwrdd yr Iaith mynd i’r afael a’r sefyllfa a mynnu gorchymyn o orfodaeth gan y Gweinidog. Mae’n bryder mawr nad yw un o’r cwynion rydw i a phobol eraill Merthyr wedi eu cyfeirio at y Swyddog penodol wedi’i hystyried yn gwynion swyddogol.”

Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r Cyngor yn ffars lwyr – mae cymaint o'u ffurflenni yn uniaith Saesneg, ac mae'r wefan yn jôc. Aeth un o'n haelodau mewn a gofyn i wneud cwyn yn Gymraeg, ond doedd dim ffurflenni cwyno ar gael yn Gymraeg! Mae'r ffaith bod y wefan yn uniaith Saesneg yn adlewyrchu'r agwedd a methiant llwyr i gyflawni hyd yn oed y gwasanaethau Cymraeg mwyaf sylfaenol.

“Nid oes esgus gan Gyngor Merthyr. Pob blwyddyn, mae chwe chant o blant Merthyr yn mynd i Ysgol Rhydywaun ac felly yn gwbl ddwyieithog wrth iddynt adael ysgol, ond dyw’r Cyngor ddim yn gwneud defnydd o’r sgiliau hynny. Mae yna gwestiynau mawr am Fwrdd yr Iaith yn y llanast yma. Sut ydyn nhw wedi gadael i'r Cyngor bennu lan fel hyn?”

Mae’r mudiad pwyso wedi ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gofyn iddynt gynnal ymchwiliad llawn i mewn i Gyngor Merthyr.

Rhannu |