Mwy o Newyddion
Dim DotCymru – ymgyrchwyr yn pryderu am yr effaith ieithyddol
Ni fydd gan Gymru ei henw fel parth ar y we oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ôl mudiad iaith sydd wedi erfyn ar Weinidogion i newid eu meddwl.
Mewn apêl at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan pryder am effaith ieithyddol methu â sicrhau'r parth lefel-uchaf “.cymru” , fel '.com' neu '.uk' ar y we.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau proses dendro i ennill ei chefnogaeth swyddogol i gais am enw i Gymru ar y we. Ac er bod dogfen tendro Llywodraeth Cymru yn annog ceisiadau am enwau yn y ddwy iaith, nid oes sicrhad y llwyddith cwmni gyda'r ddau gais o flaen y corff rhyngwladol ICANN. ICANN fydd yn penderfynu ar unrhyw gais am enw parth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru; gyda’r gystadleuaeth ryngwladol yn dechrau o Ionawr 12fed.
Mewn pôl diweddar, ffafriodd mwyafrif yr enw “.cymru” yn hytrach na “.wales”. Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu ei fod yn cefnogi enw Saesneg yn unig .
Dywedodd Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “… gwir hanfod sicrhau parth i Gymru oedd creu ardal i gymuned ieithyddol y Gymraeg, gweler ".cat" o Gatalwnia fel enghraifft berffaith. Trwy ofyn am enw .wales byddai holl bwynt cael y parth yn cael ei golli. Fel mudiad rydym wedi ymgyrchu’n frwd dros sicrhau parth i Gymru ynghyd â mudiadau eraill... Mae felly yn peri cryn ofid i ni bod y llywodraeth wedi gwneud penderfyniad heb ymgynghori na thrafod gyda phobol Cymru.”
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Yn amlwg, mae presenoldeb y Gymraeg ar y we yn bwysig iawn, mae rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn colli'r cyfle hwn i wneud ein hiaith unigryw yn un weledol yn rhyngwladol.
"Rydym wedi gweld agwedd negyddol tuag at yr iaith mewn gohebiaeth ddiweddar gan weision sifil yr Adran Busnes [Llywodraeth Cymru]. Ar y llaw arall, mae Leighton Andrews wedi dangos cryn gefnogaeth i ddatblygu'r iaith ar-lein. Rydyn ni'n gobeithio y bydd e’n fodlon camu mewn i achub y dydd a sicrhau bod “dot cymru” yn digwydd. Mae'n fater pwysig i statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol a'i delwedd ar draws y byd.”