Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2012

Ocsiwn Llandyrnog

ROEDD ocsiwn o nwyddau ac addewidion a gynhaliwyd yn Neuadd y Pentref, Llandyrnog yn ddiweddar yn llwyddiant anhygoel.

Diolch i sgiliau a sylwadau ffraeth Elfor Morris, yr arwerthwr lleol, a haelioni’r gynulleidfa, codwyd dros £4000 tuag at Eisteddfod Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013.

Diolch i Fanc Barclays am ei nawdd i’r arwerthiant a’r raffl drwy ei gynllun cymunedol punt am bunt, mae pentref Llandyrnog bron iawn â chyrraedd ei tharged o £7000, gwta chwe mis ar ôl dechrau ar yr ymgyrch codi arian.

Yn y llun o’r chwith i’r dde mae Richard Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Apêl, Ruth Williams a Gwenan Lewis.

Rhannu |