Mwy o Newyddion
Galwad ar Lywodraeth Cymru i leoli corff amgylcheddol ym Mangor
Yng nghyfarfod diweddar Cyngor Gwynedd, galwodd Arweinydd y Blaid, Y Cynghorydd Dyfed Edwards ar Lywodraeth Cymru i leoli ei gorff amgylcheddol newydd ym Mangor, Gwynedd.
Mae pencadlys Cyngor Cefn Gwlad Cymru eisoes ym Mhenrhosgarnedd ger Bangor ar hyn o bryd ac swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd ym Mangor. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths y bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Asiantaeth Amgylchedd yn dod ynghyd gan greu un corff newydd.
Yng nghyfarfod llawn o’r Cyngor galwodd Arweinydd y Blaid, Y Cynghorydd Dyfed Edwards am gynnig brys i gefnogi ei alwad ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi a sicrhau cyfleon gwaith yn ardal Bangor.
“Fel cynrychiolydd y Blaid, ro’n i’n awyddus i drafod y cais hwn yn y Cyngor llawn, oherwydd bod sicrhau swyddi yng Ngwynedd yn parhau yn un o brif flaenoriaethau Plaid Cymru. Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog i uno’r cyrff amgylcheddol hyn, bydd newidiadau yn anorfod. Dyna’r rheswm ro’n i’n awyddus i drafod hyn gyda’m cyd-gynghorwyr a holi am eu cefnogaeth i bwyso ar Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidogion perthnasol eraill i sicrhau ffynniant yng Ngwynedd a datganoli swyddi o Gaerdydd i Fangor."
Cytunodd Cyngor Gwynedd yn unfrydol i gefnogi cais arweinydd y Blaid.
“Mae’r swyddi rhain yn rai o safon, yn swyddi arbenigol sy’n cynnig cyflogau da. Gall hyn fod yn gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru gyrraedd at bobl ledled Cymru a sicrhau a buddsoddi mewn cyfleoedd economaidd yng ngogledd orllewin Cymru.”
Bydd ymgynghoriad Llywodaraeth Cymru yn dechrau ar y mater yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Llun: Dyfed Edwards