Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2012

Datblygiad Maes Awyr Llanbedr yn hwb i’r economi leol

Mae Cynghorydd Plaid Cymru dros Lanbedr yng Ngwynedd, Evie Morgan Jones, yn croesawu cyhoeddiad Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Edwina Hart i gytuno i drosglwyddo maes awyr gwag Llanbedr i ‘Llanbedr Airfield Estates’. Mae’r safle wedi bod yn wag ers saith mlynedd, tra bo nifer o gyrff a sefydliadau gwahanol yn trafod pynciau cyfreithlon, problemau cynllunio a chytundebau ffurfiol.

Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru, Evie Morgan Jones, sy’n cynrychioli trigolion Llanbedr ar Gyngor Gwynedd: “Dwi’n falch iawn bod y Gweindiog wedi cytuno i drosglwyddo’r safle i ddwylo cwmni ‘Llanbedr Airfield Estates’. Mae hi wedi bod yn broses faith a llafurus a’n gobaith ni bellach yw y bydd y materion cyfreithiol o drosglwyddo’r safle ar brydles tymor hir, 125 o flynyddoedd, yn digwydd yn rhwydd.

 

“Mae Llanbedr yn bentref bach yng nghanol Ardudwy ac o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hi’n fraint i ni gael byw mewn lle mor odidog. Allwn ni ddim, fodd bynnag, fyw ar awyr iach na golygfeydd braf. Rydyn ni’n awyddus i ddenu swyddi i’r ardal, gan sichrau bod ein hieuenctid yn parhau i fyw, gweithio a magu plant yma.

 

“Rydym wedi cael sicrwydd gan gwmni ‘Llanbedr Airfield Estates’ ei bod wedi ymrwymo i’r cynllun ac mai un o’u prif egwyddorion yw adfywio’r economi leol a sicrhau swyddi o safon. Fel Cynghorydd Sir yr ardal, dwi’n gwbl gefnogol i’r weledigaeth hon,” meddai’r Cynghorydd Jones.

 

Mae Tystysgrif Cyfreithlondeb a ryddhawyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngorffennaf 2011, yn cadarnhau’r hawl cynllunio cyfreithiol sef bod “defnydd y safle i ymchwilio a datblygu profion, gwerthuso a datblygiad cerbydau awyr di-beilot.” Tan 2004, roedd y safle’n cael ei defnyddio i ddatblygu awyrennau di-beilot gyda Goruchwyliaeth Rheoli Traffig Awyr, radar a dynesiad radar manwl. Roedd hefyd yn gyrchfan awyr i’r Llu Awyr a sefydliadau eraill.

 

Adeiladwyd Maes Awyr Llanbedr yn 1938, ac mae nifer o adeiladau ar y safle 563 o aceri. Mae arwynebedd llawr yr adeiladau yn mesur 171,115 o droedfeddi sgwâr ac yn parhau i fod yn ddefnyddiol at ddefnydd cerbydau awyr a gweithgareddau tebyg.

 

Yn ôl Gweinidolg y Llywodraeth yn yr hysbysiad o benderfyniad: “Trwy’r broses benderfynu, mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried yr holl ffeithiau, yn arbennig, eu dyletswydd yn ôl Adran 11A Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 gan gynnwys bob cynrychiolaeth a wnaed iddynt.”

 

Y gobaith yw y caiff y broses weinyddol i gwblhau’r elfen gyfreithiol o’r trosglwyddiad eiddo ei chwblhau yn y flwyddyn newydd.

Rhannu |