Mwy o Newyddion
Codi trethi fydd y cam nesaf
MAE’R gŵr a fathodd y term mai “proses, ac nid digwyddiad” ydi datganoli, yn dweud fod y broses honno wedi cymryd llai o amser nag a feddyliodd i newid pob agwedd ar fywyd Cymru.
Ron Davies, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y cyn-Aelod Seneddol a chyn-Aelod Cynulliad dros Gaerffili, a’r gŵr a osododd y seiliau ar gyfer Cynulliad ym Mae Caerdydd, fu un o ymgyrchwyr pennaf yr ymgyrch ‘Ie Dros Gymru’ yn y de-ddwyrain.
A phan gyhoeddir canlyniad y refferendwm brynhawn heddiw (dydd Gwener), mae’n disgwyl canlyniad dau i un o blaid rhoi’r hawl i’r Cynulliad basio deddfau heb orfod mynd i San Steffan i ofyn am yr hawl.
Ymhellach na hynny, mae Ron Davies yn dweud mai mater o amser yn unig ydi hi cyn y bydd Cymru yn codi rhai o’i threthi ei hunan, a hynny fel rhan o drefn wleidyddol a fydd yn fwy rhydd ac ymlacedig na’r hen berthynas â San Steffan.
“Yn gyffredinol, wy’n credu fod pobol yn llai ofnus, ac maen nhw’n fodlon credu nawr fod gan Gymru’r hawl i fwy o bwerau; maen nhw’n meddwl yn lletach nag oedden nhw fwy na deng mlynedd yn ôl…” meddai Ron Davies mewn cyfweliad gyda Y Cymro.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA