Mwy o Newyddion
Heulwen ar hyd y glennydd yn cynhyrchu trydan
Mae Ysgol Crud y Werin, Aberdaron bellach yn gallu creu ei thrydan ei hun wedi i 15 o baneli haul gael eu gosod ar do yr ysgol fel rhan o gynlluniau amgylcheddol Cyngor Gwynedd.
Mae buddion deublyg i’r datblygiad diweddaraf hyn – fel rhan o Gynllun Carbon y Cyngor mae’r ysgol yn cwtogi defnydd ynni traddodiadol ac yn lleihau ei ôl-troed carbon; yn ogystal mae’r disgyblion yn dysgu am dechnoleg newydd ac ynni adnewyddol drwy gynllun Ysgolion Gwyrdd y sir.
Dywedodd Alan Wyn Jones, pennaeth Ysgol Crud y Werin: “Gosodwyd y paneli dros wythnos yn ôl, gallant greu hyd at 4kw o drydan. Mae sgrin wedi ei gosod yng nghyntedd yr ysgol sy’n dangos faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu a pan mae’r haul yn dod allan rydym yn gweld yr ynni yn saethu i fyny.
“Mae’r plant wedi cymryd diddordeb mawr o’r cychwyn yn y syniad o’r ysgol yn cynhyrchu trydan ei hun. Maen nhw eisoes wedi bod yn astudio ffigurau manwl yn eu gwersi mathemateg ar y math o arbedion y gallai’r ysgol ei wneud yn ei filiau trydan wrth fuddsoddi mewn paneli fel hyn ac wedi bod yn dysgu am ddulliau o gynhyrchu trydan yn eu gwersi gwyddoniaeth.”
Fel rhan o’r Cynllun Ysgolion Gwyrdd, mae ysgolion ledled y sir wedi bod yn dysgu sut mae arbed ynni, atal llygredd, lleihau gwastraff, bod yn gynnil wrth ddefnyddio adnoddau naturiol, gofalu am yr amgylchedd a meddwl am ffyrdd gwyrdd o deithio.
Ychwanegodd Mr Jones: “Roedd yr ysgol wedi bod wrthi ers tro yn chwilio am ffyrdd o wella effeithlonrwydd o safbwynt ynni, ac mi fuon ni’n ffodus iawn o gael help a chyngor Roy Milnes, ymgynghorydd arbenigol mewn ynni, sy’n byw’n lleol. Mae o hefyd wedi bod yn siarad efo’r plant, ac maen nhw wedi dysgu llawer oddi wrtho.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, sy’n gyfrifol am bortffolio amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Un o nifer o fentrau’r Cyngor i hyrwyddo byw yn wyrdd yw’r Cynllun Ysgolion Gwyrdd. Mae gennym hefyd darged o gwtogi allyriadau carbon o holl adeiladau’r Cyngor o 30% erbyn 2014/15.
“Rydw i’n falch o weld y ddau gynllun gwerth chweil yma yn dod at ei gilydd yn Ysgol Crud y Werin. Mae pawb ar eu hennill - rydym yn lleihau ôl-troed carbon yr ysgol, arbed arian ar filiau ynni ac yn dysgu’r plant am bwysigrwydd parchu a gofalu am yr amgylchedd.”