Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2012

Ennill cytundeb rhaglenni dysgwyr

Mae cwmni cynhyrchu Fflic wedi ennill y cytundeb i ddarparu pecyn o raglenni i ddysgwyr ar S4C yn dilyn proses dendro agored.

Fe fydd Fflic, sy’n rhan o Grŵp cwmnïau Boomerang+, yn dechrau yn syth ar y gwaith o baratoi’r gyfres o raglenni wythnosol.

Fe fydd y gwasanaeth i ddysgwyr yn dechrau ym mis Mawrth 2012 fel rhan o’r amserlen newydd fydd yn cael ei lansio'r pryd hynny.

Y bwriad yw darlledu rhaglenni awr o hyd yn wythnosol yn hwyr ar brynhawniau Sul.

Bydd Fflic yn darparu 52 o raglenni yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan ddarparu deunydd aml-lwyfan ar-lein fel rhan o’r pecyn. Mae’r cytundeb cynhyrchu hwn yn para am ddwy flynedd.

Mae gan Fflic brofiad helaeth o gynhyrchu rhaglenni ar gyfer dysgwyr ar S4C - ac mae’r rhain yn cynnwys y cyfresi cariad@iaith a Welsh in a Week.

Meddai Meirion Davies, Pennaeth Cynnwys S4C. “Mae darparu gwasanaeth ehangach i Ddysgwyr Cymraeg yn rhan bwysig o Weledigaeth S4C ar gyfer 2012 a thu hwnt.

“Mae gwaith ymchwil y Sianel yn dangos bod y garfan bwysig hon o’r gynulleidfa yn dyheu am ehangu'r gwasanaeth presennol. Rydym wedi ymgynghori gyda chyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau i ddysgwyr, cyn penderfynu ar y math o ddarpariaeth sydd ei hangen.

“Mae cynnig Fflic yn un dychmygus a chyffrous sydd yn ateb ein gweledigaeth o gynnig gwasanaeth pwrpasol, defnyddiol ar gyfer dysgwyr. Mi fydd y gyfres yn cynnig adloniant ac yn borth i dywys y gwylwyr at raglenni eraill y sianel. Rydym eisiau i’r rhaglenni ysbrydoli a bod yn symbyliad i bobl newydd i fwrw ati i ddysgu’r iaith.”

 

Rhannu |