Mwy o Newyddion
Y Gweinidog yn ceisio barn am y ffordd ymlaen ar gyfer tai
Heno, bydd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, yn galw ar bobl i gyflwyno syniadau i helpu i ddiwallu anghenion pobl o ran tai.
Mewn araith ym Mhrifysgol Abertawe, bydd y Gweinidog yn lansio dogfen o’r enw ‘Cwrdd â’r Her Tai – creu consensws ar gyfer gweithredu’, a fydd yn symbylu trafodaeth am y materion allweddol ym maes tai ac am yr heriau a fydd yn ein hwynebu yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Huw Lewis: “Mae cartref boddhaol yn rhan hanfodol o fywyd pawb. Mae’n effeithio ar bopeth, gan gynnwys iechyd a lles, addysg ein plant, y gallu i gadw swydd, a chryfder ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn deall hyn ac mae’n ymrwymedig i sicrhau bod cartref boddhaol ar gael i bawb. Ond mae heriau mawr yn ein hwynebu a fyddan nhw ddim yn rhai hawdd i’w datrys.
“Rydyn ni’n benderfynol o wneud gwahaniaeth a dw i’n edrych ar bethau y gallwn ni eu gwneud, gan gynnwys cyflwyno cyfreithiau newydd a chamau eraill. Ond nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hwn. Mae diwallu anghenion pobl o ran tai yn dibynnu ar ymdrechion ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, banciau a chymdeithasau adeiladu, cynrychiolwyr y diwydiant, elusennau a sefydliadau gwirfoddol.
“Mae yna newyddion da - mae digon o syniadau a phosibiliadau eisoes. Er enghraifft, bod yn fwy llym gyda landlordiaid gwael, dod o hyd i ffyrdd gwell o fynd i’r afael â digartrefedd, sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, a defnyddio tir sy’n eiddo i’r Llywodraeth er mwyn adeiladu mwy o dai. Dyna i chi rai o’r atebion posibl. Mae’n cyhoeddiad diweddar am raglen gwerth £5 miliwn i leihau nifer y cartrefi gwag ar draws Cymru yn dangos ein bod o ddifrif yn hyn o beth. Mae’n pwerau newydd yn rhoi cyfle i ni wneud hyd yn oed mwy i newid pethau er gwell.
“Dw i’n teimlo bod angen i ni gynnal trafodaeth am yr hyn sy’n bwysig, ac mae yna gwestiynau mawr i’w hateb. Dyna pam dw i’n lansio’r ymgynghoriad yma heddiw. Dw i’n edrych ymlaen at gael clywed eich barn.”
Bydd yr holl safbwyntiau’n cael eu hystyried wrth i’r Papur Gwyn ar Dai gael ei ddatblygu y gwanwyn nesaf. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw dydd Gwener 17 Chwefror 2012. Mae’r papur sy’n amlinellu gweledigaeth y Gweinidog i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/housingchallenge.Gallwch ddilyn y drafodaeth ar Twitter hefyd drwy ddefnyddio’r hashtag #cartreficymru.