Mwy o Newyddion
Apêl gan S4C i wylwyr yng ngogledd ddwyrain Cymru
Mae S4C wedi gofyn i wylwyr yng ngogledd ddwyrain Cymru roi gwybod i’r Sianel os ydynt yn cael trafferthion derbyn ei gwasanaeth.
Mae hyn yn dilyn llythyr anfonwyd at Digital UK gan Aelod Seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones yn cwyno bod rhai o’i hetholwyr yn methu derbyn y gwasanaethau teledu Cymreig.
Yn ei hymateb, mae Digital UK yn dweud ei bod yn bosib fod rhai pobl yn ardal Wrecsam yn cael trafferthion derbyn y gwasanaethau teledu Cymreig o drosglwyddydd Cefn Mawr oherwydd newid technegol wnaethpwyd i drosglwyddydd Long Mountain ar 19 Hydref. Yn eu llythyr, awgrymodd Digital UK ffyrdd o ddatrys y broblem gan gynnwys ail-gyfeirio erial neu brynu erial newydd er mwyn cael signal o drosglwyddydd Long Mountain neu drosglwyddydd Wrecsam Rhos.
Dywedodd Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Mae’n achos pryder i ni fod rhai pobol yng ngogledd ddwyrain Cymru, o bosib, yn methu derbyn gwasanaeth S4C. Gofynnwn i unrhyw un sy’n cael trafferth o’r fath gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C er mwyn iddynt gael cyngor sut i adfer y gwasanaeth.”
Gellir cysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar gwifren@s4c.co.uk neu ar o870 600 4141