Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Rhagfyr 2011

Cam ymlaen i ganolfan ymchwil feddygol bwysig yn Abertawe

Cymerodd ganolfan flaenllaw yn Abertawe, sy’n gwneud ymchwil feddygol arloesol, gam mawr ymlaen wrth i Carwyn Jones, y Prif Weinidog, agor cyfleusterau newydd.

Y Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) yw cangen ymchwil Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae’n gwneud gwaith yn ymwneud â meysydd fel canser, gordewdra a diabetes.

Roedd y cam cyntaf wedi costio £52 miliwn a heddiw cafodd yr ail gam sy’n werth £28.8 miliwn ei ddadorchuddio gan y Prif Weinidog. Disgwylir iddo greu 650 o swyddi. Bydd yr adeilad yn gartref hefyd i Ganolfan NanoIechyd (CNH), menter ar y cyd gwerth £21.6 miliwn rhwng y Coleg Peirianneg a’r Coleg Gwyddoniaeth.

Cafodd cam cyntaf yr ILS ei agor ym mis Mawrth 2007 a hwn oedd y buddsoddiad mwyaf erioed yn Abertawe mewn ymchwil. Mae arbenigwyr mewn ymchwil feddygol a deori busnes yn gweithio yno. Mae’r prosiect yn gydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Cymru ac IBM. Mae’r ILS yn ymrwymedig i ddod o hyd i atebion newydd i hen broblemau mewn perthynas â meddygaeth.

Mae’r adeilad saith llawr, 6,000 metr sgwâr, yn cynnwys cyfleuster ymchwil glinigol a bydd yn cyfrannu’n fawr at ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar gyfer y diwydiant gofal iechyd. Bydd hefyd yn rhoi hwb i’r economi gan ddarparu teirgwaith yn fwy o le i fusnesau cysylltiedig dyfu.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £10 miliwn i ail gam y prosiect, gyda £12.8 miliwn yn dod o gronfa Datblygu Rhanbarthol yr UE.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’r Sefydliad Gwyddor Bywyd a’r Ganolfan NanoIechyd yn gyfleuster o’r radd flaenaf. Mae’n arwain y ffordd o ran gwneud ymchwil hollbwysig i feysydd fel canser a gordewdra sy’n cael effaith andwyol ar ein cymdeithas ac mae’n cyfrannu’n anferthol at ddod o hyd i atebion newydd i’r problemau hyn.

“Mae’n gydweithrediad unigryw rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a’r sector preifat sy’n darparu arbenigedd ac ymchwil feddygol ac yn datblygu’r economi drwy feithrin busnesau newydd a chreu swyddi. Mae’r ILS a’r CNH eisoes wedi meithrin enw da yn rhyngwladol am ansawdd uchel eu prosiectau ymchwil. Bydd y cyfleuster hwn yn rhoi hwb i’r economi gan ddarparu ymchwil arloesol a datblygu graddedigion medrus er budd busnesau. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi’r Brifysgol a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu a thyfu’r economi wybodaeth. Rwy’n dymuno’r gorau i bawb.”

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “O ystyried bod yr hinsawdd economaidd yn wael, mae hyn yn newyddion arbennig o dda: ymchwil feddygol yn creu swyddi ac yn gwella gofal meddygol. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd wedi galluogi Abertawe i fanteisio ar lwyddiant Sefydliad Gwyddor Bywyd y Brifysgol. Mae’r datblygiad newydd yn darparu mwy na dwywaith yn fwy o le ac yn cynnwys cyfleusterau gwell ar gyfer cwmnïau sy’n gweithio yn y Brifysgol. Mae hefyd yn gartref i’r ymchwil o’r radd flaenaf i Ganolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe.”
 

Rhannu |