Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Rhagfyr 2011

‘Nid uno yw’r ffordd ymlaen i wella cyfraddau ymchwil’

Mae AC Canolbath a Gorllewin Cymru Simon Thomas yn cefnogi cynnig yn y Senedd sydd â’r nod o wella addysg uwch yng Nghymru.

Cred Mr Thomas nad uno yw’r ffordd ymlaen i wella cyfraddau ymchwil.

Meddai llefarydd y Blaid ar Addysg a Sgiliau, Simon Thomas: “Nid yw’r Blaid yn ffafrio gorfodi uno oherwydd fe fydd yn dwyn adnoddau a sylw ymaith oddi wrth brif swyddogaeth prifysgolion, sef addysg ac ymchwil. Mae’n bryd i ni weld gwelliant yn ein galluoedd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch Cymru. Y ffordd orau i wella cyllid ymchwil yw trwy well cydweithredu yn hytrach na gorfodi uno.

“Rydym yn cael llawer llai na’n cyfran deg o Gyllid y Cyngor Ymchwil. Caiff yr arian hwn ei ddyrannu ar sail rhagoriaeth, nid yn ôl y pen. Felly mae’n amlwg fod angen i brifysgolion Cymru fynd ati gyda mwy o egni.

“Dylai pob cam gan Lywodraeth Cymru fod wedi eu cynllunio i’w gwneud yn haws i’n myfyrwyr tlotach fynd i’n sefydliadau addysg uwch, gofalu bod ein sefydliadau AU yn cynnig y profiad gorau i israddedigion a’r cyfleoedd gorau am waith i raddedigion, a gwella galluoedd ymchwil prifysgolion Cymru.

“Yr hyn sy’n bwysig i Blaid Cymru yw ein bod yn gweld gwelliant yn ein system a’r sector addysg uwch o ran cyrhaeddiad, cyflogi graddedigion a chyfleoedd ymchwil mewn prifysgolion ac yn y sector yng Nghymru.”

Geilw’r cynnig a drafodir ddydd Mercher ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

ail-lunio polisi addysg uwch i gryfhau safonau dysgu a gwella deilliannau i raddedigion;
creu sefydliadau addysg uwch Cymru fel canolfannau i ragoriaeth ôl-raddedig ac ymchwil; a
blaenoriaethu cydweithredu gwirfoddol yn hytrach na gorfodi uno rhwng sefydliadau addysg uwch.

Rhannu |