Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Rhagfyr 2011

Dymunwn i chi Nadolig y byddwch chi dymuno ei gofio

A ninnau’n nesáu at Nadolig, mae Alcohol Concern yn annog yfwyr i osgoi penmaenawr Dydd Sant Steffan, a mwynhau tymor yr ŵyl mewn modd y byddant yn dymuno ei gofio.

 

Dywedodd Rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell: “Adeg yw’r Nadolig pan fydd diota’n cynyddu’n draddodiadol. Efo digonedd o alcohol ar gael, mae diota’n gallu teimlo fel peth cymdeithasgar i’w wneud, ond dyw’r canlyniadau ddim bob tro’n ddymunol iawn. Ar wahân i gur pen yn y bore, mae goryfed yn gallu gwaethygu ymgecru teuluol, heb sôn am y niwed i’n hiechyd yn y pen draw. O ran sut i gael Nadolig mwy pleserus, llai o alcohol yw’r ateb yn aml iawn.”

Mae’r elusen hefyd yn annog cyflogwyr i fod yn arbennig o ymwybodol ynghylch eu cyfrifoldebau o ran lles staff yn nhymor partïon a chiniawau’r gwaith.

Ychwanegodd Andrew Misell: “Bydd llawer ohonon ni’n mynd i ddathliadau Nadolig o ryw fath yn y gwaith. Hawdd iawn yw teimlo dan bwysau i yfed er mwyn ymuno â’r hwyl, ond mae eisiau i ni gofio y bydd rhaid i wynebu ein cydweithwyr bore trannoeth. Bydden ni’n annog cyflogwyr i wneud yn siŵr bod digon o ddewis o ddiodydd di-alcohol ar gael, a bod staff yn cael parti y byddan nhw am ei gofio.”

Ewch i www.yfeddoethcymru.org.uk eich canllaw iach i fwynhau diod

Rhannu |