Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Rhagfyr 2011

Pleidleisio ar doriadau pensiynau y sector gyhoeddus

Bydd aelodau seneddol yn cael y cyfle i bleidleisio ar bensiynau sector gyhoeddus yr wythnos yma ar ôl i Blaid Cymru a’r SNP osod cynnig ar y cyd yn erbyn newidiadau a gynigwyd gan Lywodraeth y DG.

Bu mwy na 2 filiwn o weithwyr y sector gyhoeddus yn cymryd rhan mewn Diwrnod o Weithredu wythnos diwethaf dros y cynigion, a olygai gweithio am yn hirach, talu mwy mewn cyfraniadau pensiwn ond derbyn pensiwn llai pan maent yn ymddeol yn y pen draw.

Er gwaethaf bod 36 dadleuon diwrnod yr wrthblaid ers cyhoeddiad cyntaf newidiadau i bensiynau sector gyhoeddus ym Mehefin 2010, mae Llafur hyd yn hyn wedi methu ei rhoi ar agenda'r Senedd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau, Hywel Williams AS: “Yn syml, mae’r newidiadau pensiynau yn annheg.

“Mae’r cynigion hyn yn golygu bod miloedd o weithwyr y sector gyhoeddus sy’n gweithio’n ddiflino, gan gynnwys athrawon a nyrsys, yn talu mwy o’u cyflogau bob mis a'n derbyn llai o arian wrth ymddeol. Gweithio mwy, talu mwy, cael llai.

“Ni wnaiff Llywodraeth y DG drafod newidiadau pensiwn a wnaed yn 2007-08 sydd, yn ôl ffigyrau o’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, yn dangos arbediad o 14% o ganlyniad.

“Mae Plaid Cymru yn ddiweddar wedi darganfod nad yw Llywodraeth y DG wedi cynnal unrhyw ailwerthusiad o Gynllun Pensiwn Athrawon ers y newidiadau. Felly sut allent ddadlau bod y cynllun yn anfforddiadwy?

“Nid yw’r cynnydd mewn cyfraniadau o gyflogau am gyllido pensiynau’r dyfodol, fel mae’r llywodraeth yn hawlio. Yn hytrach mae am lenwi’r bwlch a grëwyd gan y bancwyr mechnïo a thrwy fethiant rheoleiddio.

“Gyda chyflogau sector gyhoeddus yn cael eu rhewi a 710,000 o swyddi yn cael eu colli o dan gynlluniau Con-Dem, mae hwn yn ymosodiad uniongyrchol ar y sector gyhoeddus, asgwrn cefn ein gwledydd.

“Mae’n gwbl annerbyniol bod newidiadau mor fawr ddim wedi talu eu trafod yn briodol yn y Senedd.

“Dylai’r undebau llafur gysidro pam nad yw Llafur wedi galw am y drafodaeth, mai Plaid Cymru a’r SNP sydd wedi gwneud a pham bod mainc blaen Llafur i’w weld yn diflannu pan mae streic yn cael ei grybwyll.”

Rhannu |