Mwy o Newyddion
Comisiynydd y Gymraeg yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror
BYDD Meri Huws yn gadael swydd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gynnar er mwyn gallu paratoi ar gyfer ei swydd newydd sef Comisiynydd cyntaf y Gymraeg.
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi derbyn ei hymddiswyddiad o 1 Chwefror y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn ei galluogi i ymgymryd â rôl y darpar Gomisiynydd ac i baratoi ar gyfer sefydlu ei swyddfa newydd. Daw swydd newydd Comisiynydd y Gymraeg i rym ar 1 Ebrill, 2012.
Bydd Marc Phillips, sydd wedi bod yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ers blynyddoedd lawer, yn ymgymryd â swydd Cadeirydd dros dro Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2012.
Dywedodd Mr Andrews: “Hoffwn ddiolch i Meri Huws am ei gwaith fel Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac rwy’n falch iawn y bydd yn dechrau ar ei gwaith fel y Comisiynydd newydd yn gynnar. Gall hi ddechrau cyfrannu at y gwaith pwysig sydd o’i blaen a’n helpu â gweddill y gwaith o sefydlu ei swyddfa.
“Rwy’ hefyd yn falch y bydd Marc Phillips, sy’n aelod profiadol o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ers sawl blwyddyn, yn camu i mewn fel Cadeirydd dros dro yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Bydd Mr Phillips yn cynnig arweiniad ar adeg o newid, a bydd yn sicrhau bod holl weithgareddau’r Bwrdd yn cael eu dirwyn i ben mewn modd priodol."
Dywedodd Ms Huws: ““Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith hollbwysig hwn ym mis Chwefror - ac at gyfrannu rhagor wrth i’r swyddfa gael ei sefydlu. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru ac â sefydliadau eraill yng Nghymru, a thu hwnt, er mwyn datblygu’r system newydd o safonau yn ymwneud â’r Gymraeg.
““Rwy’n bwriadu datblygu’r gwaith da sydd eisoes wedi’i gyflawni gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn atgyfnerthu’r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu.”
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu system reoleiddio, sy’n seiliedig ar safonau yn ymwneud â’r Gymraeg, er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd. Bydd y Comisiynydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ynghylch polisi iaith a bydd yn gallu ymchwilio i faterion amrywiol iawn sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg.
Llun: Meri Huws