Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Rhagfyr 2011

Trosgwlyddo asedau i'r Cyngor Llyfrau

Wrth i’r Cyngor Llyfrau ddathlu 50 mlynedd o wasanaethu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, mae’n briodol cofio am waith arloesol y cymdeithasau lleol a roddodd fod i’r sefydliad cenedlaethol.

Un o’r cymdeithasau llyfrau amlycaf oedd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, a fu tan yn ddiweddar yn weithgar yn cyhoeddi llyfrau gan ganolbwyntio’n bennaf ar faes llyfrau plant. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion a fu’n gyfrifol am gyhoeddi cyfresi cyntaf Sali Mali, y cymeriad poblogaidd mewn llyfrau i blant bach.

Yn dilyn blynyddoedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi, mae’r Gymdeithas wedi penderfynu dirwyn ei gweithgaredd i ben ac yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth
(1 Rhagfyr 2011), cyhoeddwyd y bydd asedau’r Gymdeithas Lyfrau yn cael eu trosglwyddo i’r Cyngor Llyfrau i barhau â’r gwaith o hybu a hyrwyddo llyfrau.

“Mae Cymdeithas Lyfrau Ceredigion wedi gwneud cyfraniad pwysig yn lleol yma yng Ngheredigion, yn ogystal â chyflwyno cymeriadau poblogaidd fel Sali Mali i filoedd o blant ledled Cymru,” meddai Bleddyn Huws, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Gymdeithas. “Fe ddaeth yn amlwg i ni bellach, yn dilyn gwerthu ein rhestr gyhoeddi i Wasg Gomer, y byddai’n briodol dirwyn y Gymdeithas i ben ac i gefnogi gwaith y Cyngor Llyfrau yn y maes.”

Fe fydd yr arian o’r asedau’n cael ei fuddsoddi gan y Cyngor Llyfrau, a defnyddir y llog i hyrwyddo llyfrau a darllen ymysg plant ac i noddi Gwobrau Tir na n-Og ar gyfer llyfrau Cymraeg, sef y prif wobrau ar gyfer awduron llyfrau plant o Gymru.

“Ym mlwyddyn dathlu hanner canmlwyddiant y Cyngor Llyfrau rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o gyfraniad gwerthfawr y cymdeithasau lleol yn y dyddiau cynnar,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gymdeithas Lyfrau Ceredigion am y rhodd ariannol hon a fydd o gymorth i ni barhau â’n gwaith yn hyrwyddo llyfrau i blant a phobl ifainc.”

Llun: Elwyn Jones (blaen chwith) a Bleddyn Huws (blaen dde) yn cydlofnodi'r ddogfen i drosglwyddo asedau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion i'r Cyngor Llyfrau. Yn y llun hefyd gwelir Delyth Fletcher a Gwilym Huws o Bwyllgor Rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.

Rhannu |