Mwy o Newyddion
Pobl fregus yn cael cymorth buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru
Gwelodd Jane Hutt y Gweinidog Cyllid yr wythnos yma bod pobl fregus yng Ngogledd Cymru yn cael cymorth i aros yn eu cartrefi eu hunain am amser hirach, diolch i Gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru.
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed ar gael i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, er mwyn iddyn nhw drawsnewid y ffordd y maen nhw’n gweithio, fel eu bod nhw’n fwy effeithlon.
Sefydlwyd y Bwrdd Teleofal a Theleiechyd gan Gynghorau Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint a Gwynedd i ddatblygu prosiect i ddarparu gwasanaeth galwadau dwyieithog i helpu pobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r prosiect wedi derbyn buddsoddiad o £300,000 gan Lywodraeth Cymru, a’r rhagolygon yw y bydd yn arwain at ostyngiadau posib o oddeutu 38% yn y costau presennol, ar draws awdurdodau lleol.
Wrth ymweld â Galw Gofal: Gwasanaeth Monitro Teleofal Rhanbarthol Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, dyweddodd Jane Hutt: “Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn helpu i gael mwy o gydweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n ychwanegu gwerth, yn arbed arian ac yn darparu gwasanaethau o safon uchel.
“Yr hyn y mae’r Bwrdd Teleofal a Theleiechyd Rhanbarthol wedi’i wneud yng Ngogledd Cymru yw cydweithio i roi cyfle i rai o’r bobl mwyaf bregus yn y gymdeithas i aros yn eu cartrefi eu hunain, sy’n rhoi safon bywyd gwell iddyn nhw, ac yn lleihau’r pwysau ar ofal hirdymor.
“Dyma’r math o weithio arloesol, cydweithredol yr ydw i am ei weld yn digwydd yn amlach ledled Cymru. Trwy gydgysylltu gwasanaethau, gallwn wneud yn siŵr bod gan bawb fynediad i wasanaethau effeithlon, o safon uchel, ac ar yr un pryd ddefnyddio’r arian prin sydd ar gael yn y ffordd mwyaf effeithlon.”
Meddai Rhianwen Jones, Rheolwr Strategol Teleofal Rhanbarthol Gogledd Cymru, “Bwriad y prosiect hwn oedd symleiddio a moderneiddio’r system y tu ôl i’r llenni, ac o ganlyniad i hyn, bydd ein cwsmeriaid yn parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn yr un ffordd ag y mae’n nhw wedi’i wneud erioed, ac ni ddylent sylwi ar unrhyw newid – dim ond parhau i gael tawelwch meddwl yn eu cartrefi eu hunain.”
Llun: Jane Hutt