Mwy o Newyddion
Ail-lansio’r cynllun Cyfoeth Cymru Gyfan
Bwriedir ehangu cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru sy’n galluogi amgueddfeydd ac orielau rhanbarthol i fenthyca eitemau o gasgliadau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Dyna a gyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, yr wythnos ddiwethaf.
Yn ail-lansiad y cynllun Cyfoeth Cymru Gyfan yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful, cyhoeddodd y Gweinidog ei fod wedi sicrhau cefnogaeth ariannol Cronfa Treftadaeth y Loteri i ehangu’r cynllun yn 2012/13.
Mae Cyfoeth Cymru Gyfan yn cynnig grantiau i amgueddfeydd lleol fenthyca eitemau o gasgliadau cenedlaethol ar gyfer eu harddangosfeydd.
Yn dilyn adolygiad annibynnol, bydd y cynllun hwn bellach yn fwy hyblyg. Bydd amgueddfeydd lleol yn cael gwneud cais am grantiau i ddatblygu arddangosfeydd teithiol yn ogystal â sefydlog, a byddant hefyd yn cael ymgeisio fwy nag unwaith am grantiau er mwyn gallu datblygu prosiectau llwyddiannus. Caiff y cynllun ei estyn i gynnwys llyfrgelloedd ac archifdai hefyd, fel eu bod hwythau yn cael yr hawl i fenthyca eitemau o gasgliadau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill y DU.
Dywedodd Huw Lewis: “Mae Cyfoeth Cymru Gyfan wedi profi’n llwyddiant diamheuol. Mae wedi galluogi amgueddfeydd lleol i godi safonau a threfnu arddangosfeydd cyffrous a phoblogaidd gan gynnwys gwrthrychau o’n casgliadau cenedlaethol ni. Yn sgîl hynny, mae amgueddfeydd lleol wedi meithrin partneriaethau hirhoedlog ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
“Mae’n bleser mawr cyhoeddi canlyniadau’r adolygiad o Cyfoeth Cymru Gyfan a chael gweld y cynllun yn ehangu a datblygu. Drwy’r cynllun hwn, bydd pobl Cymru’n cael mwy o gyfleoedd i weld creiriau o gasgliadau cenedlaethol Cymru a’r DU yn eu hamgueddfeydd lleol, eu harchifdai neu eu llyfrgelloedd.
Cyhoeddwyd hefyd y bydd Cronfa Treftadaeth y Loteri’n darparu hyd at £100,000 yn 2012/13 i gefnogi’r cynllun. Bydd y cyfraniad hwn yn cyfateb i’r swm a roddir gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Dan Clayton-Jones o Gronfa Treftadaeth y Loteri: “Drwy gefnogi’r fenter Cyfoeth Cymru Gyfan, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri’n ceisio annog amrywiaeth eang o amgueddfeydd, archifdai neu lyfrgelloedd i ymgeisio am grantiau, er mwyn cynnig rhagor o weithgareddau gwahanol. Ein gobaith yw y bydd y fenter hon yn denu ceisiadau sy’n rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ddysgu am yr hanes a gynrychiolir gan y creiriau hyn.”
Llun: Huw Lewis