Mwy o Newyddion
Dechrau ar y dasg o blannu 2.9 miliwn o goed
Mae’r gwaith ar y gweill a fydd yn helpu i ffurfio edrychiad cefn gwlad Cymru yn y blynyddoedd i ddod wrth i gontractwyr ddechrau plannu coetiroedd y dyfodol.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dechrau ar y gwaith o blannu 2.9 miliwn o goed dros ardal o goetiroedd Llywodraeth Cymru sydd cymaint â 1,100 o gaeau rygbi.
Mae’r dasg enfawr yn datblygu pob blwyddyn wrth i ardaloedd, sydd wedi’u cynaeafu a’u coed wedi’u torri i fwydo’r diwydiant coedwigaeth ffyniannus, gael eu hail stocio fel rhan o reoli ein coetiroedd yn gynaliadwy.
Mae hyn yn dangos i’r eithaf natur adnewyddol coed, sy’n cynnal diwydiant yn cyflogi 10,000 o bobl yng Nghymru ac yn cyfrannu mwy na £840 miliwn i economi Cymru.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n galw ar wasanaeth tua 40 o gontractwyr medrus, ac sy’n barod i wynebu pob tywydd rhwng nawr a’r gwanwyn nesaf, i blannu amrywiaeth o goed conwydd a dail llydan.
Gweithrediadau Coedamaeth Cymru fydd yn goruchwylio’r gwaith ac mae’n gyfrifol am gynnal y cylch diddiwedd o goedwigaeth ar ôl cynaeafu’r coed.
Meddai Neil Muir, y Rheolwr Gweithrediadau, “Mae’r adeg yma’n brysur iawn i ni. Mae rheoli coetiroedd yn dod â swyddi a manteision economaidd i gefn gwlad ac rydyn ni’n dibynnu ar weithlu medrus contractwr i’n helpu gyda’r dasg enfawr hon.
“Yr hyn rydyn ni ei angen yw tywydd ffafriol rhwng nawr a'r gwanwyn er mwyn i ni allu cwblhau’r rhaglen blannu fawr hon.
Bydd y rhan fwyaf o’r coed, sy’n dod o feithrinfa Delamere yn Swydd Caer, yn rhai conwydd ond bydd tua 730,000 yn goed dail llydan. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n plannu mwy o amrywiaeth o goed er mwyn i’n coetiroedd allu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
Mae un o’r contractwyr, Emrys Jones o Langynog, ger Croesoswallt, yn cyflogi tri pherson yn ei d?m ail blannu a, gyda’i gilydd, maen nhw’n gobeithio plannu mwy na 1,000 o goed pob dydd.
Meddai, “Rwyf wedi gweithio i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru am 10 tymor plannu ac rwy wastad yn edrych ymlaen at her y tymor newydd. Mae’r gwaith yn galed ond mae’n rhoi pleser mawr i ni.
“Rydym yn gweithio dros ardal eang ac yn plannu amrywiaeth cynyddol o rywogaethau o sbriws Sitka, pinwydden Douglas, derw ac onnen - yn ogystal â gosod cysodfannau coed i warchod y coed rhag i famaliaid eu difrodi.
“Y llynedd, roedd yn anodd oherwydd y tywydd gwael, felly rwy’n gobeithio y bydd eleni’n well – ac yn gynhesach!”
Llun: Emrys a'i d?m yn ail stocio coedwig Dyfnant yng nghanolbarth Cymru'r llynedd. Chwith i’r dde: Aled Morris, Aled Jones, Emrys Jones, Jack Carnell.