Mwy o Newyddion
Fflur yn ennill gwobr “Beth am sôn am Ffermio?”
Mae disgybl deg oed o Ysgol OM Edwards Llanuwchllyn wedi ennill gwobr farddoniaeth gwerth can punt mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd ledled y wlad gan NFU Cymru.
Cyfansoddodd Fflur Haf Davies, sydd ym mlwyddyn chwech, benillion am ffermio drwy’r pedwar tymor. Roedd y gystadleuaeth ar gyfer plant o dan 16 oed yn rhan o raglen yr NFU eleni, sef, “Beth am sôn am Ffermio?” a ddyluniwyd i gyfleu mwy o wybodaeth i’r cyhoedd am “fwyd o’r ffarm i’r bwrdd bwyta”. Yn ddigon priodol, y wobr oedd dewisiad o deganau model ffarm a gynhyrchwyd gan gwmni teganau Britains.
Ym marn y beirniaid, o dan arweiniad Llywydd NFU Cymru Ed Bailey, roedd penillion Fflur yn ardderchog. “Dangoswyd gwybodaeth dda o’r tymhorau gyda theimlad, ymwybyddiaeth o amaeth fel busnes, canfyddiad o’r caledi sy’n aml yn wynebu’r gymuned ffermio, hiwmor a neges Nadolig ddymunol ar ddiwedd y flwyddyn,” meddai Mr Bailey.
Meddai Fflur, “Rwy’n falch iawn fy mod i wedi ennill y gystadleuaeth a wnes i fwynhau sgwennu am ffermio. Dysgais dipyn go lew yn barod am ffermio achos dyna thema’r ysgol eleni. Cafodd Nain ei magu ar ffarm, felly wnes i drafod fy syniadau ar gyfer y penillion efo hi.”
Meddai Pennaeth Ysgol OM Edwards Llanuwchllyn Dilys Ellis-Jones, “Rydym wedi cael pleser mawr o weld Fflur yn ennill ac rydym yn hynod o falch o’i gwaith campus, yn enwedig gan bod y gystadleuaeth wedi ei chynnal drwy Gymru gyfan. Wnaethom ni grybwyll bod ffermio yn bwnc digon pwysig i’w wneud yn thema’r flwyddyn yn yr ysgol, yn arbennig mewn ardal wledig fel hon. Yn ffodus iawn hefyd roedd cystadleuaeth yr NFU yn cymryd lle ar yr un pryd.”
Meddai Harriet Lampard ar ran cwmni teganau ffarm Britains, “Roedd pob un o’r ceisiadau eleni yn rhagorol ac yn wirioneddol drawiadol. Mae’r plant wedi dangos yn berffaith cymaint mae nhw wedi dysgu am ffermio yn gynharach yn y flwyddyn. Fe gaiff y plant nawr ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd i greu ffermydd eu hunain!"
Mae Fflur yn byw gyda’i chwiorydd Mari, pump oed, a Swyn, chwech oed, gyda’i mam Siwan, sy’n athrawes, a’i thad, Ifan, sy’n trwsio ceir, yn Nhŷ Du, Llanuwchllyn. Ychwanegodd Fflur y byddai’n rhannu’r pleser o chwarae efo’r Teganau Ffarm Fawr gyda’i dwy chwaer iau.
Cyflwynwyd y wobr gwerth can punt o Deganau Ffarm Fawr Britains i Fflur gan Gadeirydd Cangen Sir Feirionnydd NFU Cymru Huw Roberts, sy’n ffermio ym Mryngwyn, Llanuwchllyn, a Carys Roberts, Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru.