Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Rhagfyr 2011

Pryder am golli talent o Ogledd Cymru

· Yn ôl 83% o brif gynrychiolwyr y sector gyhoeddus, busnesau a sefydliadau dielw y gofynnwyd am eu barn yn ystod Goleuo’r Gogledd 2011, mae Gogledd Cymru yn dioddef o golli talent

· Credai 92% o’r cynrychiolwyr a gymerodd ran yn yr arolwg fod ar Ogledd Cymru angen economi mwy amrywiol am fod y rhanbarth yn rhy ddibynnol ar y diwydiant pŵer a’r sector gyhoeddus am gyflogaeth

· Llunio’r Dyfodol – Buddsoddiad arwyddocaol o’r Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, a Chynghorau Môn a Gwynedd a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, a sicrhawyd gan Menter Môn i helpu i fynd i’r afael â’r sialensiau sy’n wynebu’r rhanbarth

 

Gallai Gogledd Cymru fod yn dioddef o golli talent yn ddifrifol yn ôl 83% o brif gynrychiolwyr o’r sector gyhoeddus, busnesau a sefydliadau dielw y gofynnwyd am eu barn gan Llunio’r Dyfodol yn Goleuo’r Gogledd 2011. Mae unigolion talentog, tra chrefftus yn adleoli o’r rhanbarth i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth mewn rhannau eraill o Gymru, y Deyrnas Unedig a thramor.

 

Mae pryder fod Gogledd Cymru ar hyn o bryd yn methu â denu amrywiaeth o ddiwydiannau i sicrhau twf a sicrwydd cyflogaeth, cynaladwy, tymor hir yn y rhanbarth. Credai naw allan o ddeg (92%) o’r cynrychiolwyr a holwyd fod Gogledd Cymru angen economi mwy amrywiol am fod y rhanbarth yn rhy ddibynnol ar y diwydiant pŵer a’r sector gyhoeddus ar gyfer cyflogaeth.

 

Dywedodd chwarter (25%) o’r ymatebwyr fod diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r rhanbarth yn un o’r rhwystrau pennaf i ddenu mewnfuddsoddiad i Ogledd Cymru. Nododd un o bob pump (21%) o’r rhai gymerodd ran yn yr arolwg fod lefel cystadleuaeth am fuddsoddiad allanol o ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig a thramor. Canfuwyd diffyg sgiliau cynhenid digonol, a allai gael ei briodoli i golli talent cyfredol, gan 17% o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg fel y rhwystr pennaf i sicrhau mewnfuddsoddiad.

 

Credai mwy na thraean (34%) fod gwella a theilwra’n fanwl gywir sgiliau’r gweithlu cynhenid i anghenion busnesau gyda chyllid ar gyfer buddsoddi fyddai’r symudiad mwyaf llesol i ddenu mewnfuddsoddi. Roedd bron i’r bumed ran (17%) eisiau gweld mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru a chredai 17% o ymatebwyr fod cyflogi hyrwyddwyr busnes i hyrwyddo’r rhanbarth yn fuddiol wrth ddenu buddsoddiad.

 

Meddai Judy Craske, Cyfarwyddwr Prosiect, Llunio’r Dyfodol: “Mae’n ofid fod yna ganfyddiad o golli talent o Ogledd Cymru ac fod rhwystrau’n parhau i atal denu mewnfuddsoddi i’r rhanbarth. Mae angen gweithredu i fynd i’r afael â’r problemau hyn, a dyma un o’r rhesymau pam y lansiwyd Llunio’r Dyfodol, prif raglen trawsnewid rhanbarthol. Mae Llunio’r Dyfodol yn amcanu i helpu i sicrhau dyfodol economi Gogledd Orllewin Cymru drwy ehangu’r cyfleoedd i bobl a gyflogir yn niwydiant pŵer niwclear Cymru. Nod Llunio’r Dyfodol yw creu amrywiaeth economaidd cynaladwy ar draws y rhanbarth drwy roi datblygiad dynol yng nghanol llwyddiant economaidd ac annog mewnfuddsoddi, adleoli busnes ac entrepreneuriaeth.”

 

Cefnogir prosiect Llunio’r Dyfodol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhannu |