Mwy o Newyddion
Cytundeb cyllideb yr Undeb Ewropeaidd - 'newyddion drwg i Gymru’
Gallai bargen gafodd ei daro ar gyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2012 gan Senedd Ewrop heddiw fod yn ‘newyddion drwg i Gymru' yn ôl ASE Plaid Cymru, Jill Evans.
Pleidleisiodd Ms Evans yn erbyn y gyllideb gan ddweud na allai hi gefnogi cytundeb fyddai’n gwastraffu miliynau o bunnoedd ar brojectau ymchwil niwclear tra bo gweithwyr yng Nghymru yn wynebu caledu economaidd.
Beirniadwyd y toriad yn y gyllideb cyffredinol gan yr ASE Plaid Cymru a ddywedodd y gallai hyn beryglu lefelau ariannu’r Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Dywedodd Jill Evans: "Fe bleidleisiais i yn erbyn y gyllideb sydd yn peryglu ariannu ar gyfer rhai projectau yng Nghymru.
"Mae gyda ni doriad yn y gyllideb cyffredinol, ond cynnydd mewn ariannu ar g yfer project ymchwil niwclear na ellir ei gyfiawnhau o gwbl.
"Yn ystod y cyfnod economaidd garw hyn, dylai’r Undeb Ewropeaidd fod yn creu swyddi cynaliadwy. Pan fod llywodraethau ar draws Ewrop yn torri gwasanaethau cyhoeddus ac mae gweithwyr ar streic er mwyn amddiffyn eu pensiynau, fe ddylem ni fod yn torri dros y £150 miliwn mae Senedd Ewrop yn gwastraffu’n flynyddol wrth symud bob mis rhwng Brwsel a Strasbwrg.
"Mae’r gyllideb hon yn cynrychioli cyfle a gollwyd i gefnogi ein heconomi ac o’r herwydd alla i ddim ei gefnogi."