Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Rhagfyr 2011

Golau gwyrdd ar gyfer aelodaeth Croatia o’r Undeb Ewropeaidd

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawu’r bleidlais a gynhaliwyd heddiw yn Senedd Ewrop, sydd yn rhoi’r golau gwyrdd i Groatia ymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn 2013. Pleidleisiodd yr ASE Plaid Cymru o blaid y ddeddfwriaeth a gafodd ei basio gan fwyafrif mawr.

Wrth siarad o Frwsel wedi'r bleidlais, dywedodd yr ASE Plaid Cymru: "Byddwn yn croesawu Croatia fel wythfed aelod ar hugain yr Undeb Ewropeaidd yn 2013. Mae Croatia’n enghraifft o sut mae gwlad a chenedl fach, annibynnol Ewropeaidd, yn gallu cyrraedd ei photensial llawn fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

"Bydd annibyniaeth yn Ewrop yn rhoi mynediad llawn i farchnad sengl Ewrop i Groatia, fydd yn helpu hybu masnach.

"Golyga aelodaeth lawn o Undeb Ewrop gwir bŵer a dylanwad pan gaiff penderfyniadau allweddol eu gwneud ar lefel Ewropeaidd.

"Mae ymchwil a gyhoeddais yn gynharach eleni yn dangos gallai Cymru fod wedi bod bron ddeugain y cant yn gyfoethocach pe baem ni wedi ymuno â’r Undeb Ewropeaidd fel cenedl annibynnol rhyw ugain mlynedd yn ôl. Rwy’n gobeithio gweld Cymru yn cymryd ei sedd ar fwrdd uchaf Ewrop yn y blynyddoedd i ddod."

Mae’r bleidlais heddiw yn Senedd Ewrop yn arwain y ffordd i lywodraethau’r saith ar hugain o wladwriaethau Ewropeaidd i gymeradwyo cytundeb cytuniad Undeb Ewrop Croatia yn y cyfarfod brig ym mis Rhagfyr ym Mrwsel. Bydd angen cymeradwyaeth seneddau’r saith ar hugain o aelod wladwriaethau hefyd.

Rhannu |