Mwy o Newyddion
Codi pryderon ynglŷn â thriniaeth Bradley Manning
Mae Jill Evans ASE wedi llofnodi llythyr at Lywodraeth yr Unol Daleithiau sydd yn codi pryderon ynglŷn â thriniaeth Bradley Manning, y milwr sydd mewn carchar milwrol am yr honnir iddo fod wedi gollwng dogfennau dosbarthol i’r wefan WikiLeaks. Bydd Mr Manning, a fu’n byw yn Aberdaugleddau tra’n laslanc ac sydd â’i fam yn byw yno o hyd, yn ymddangos yn y llys am y tro cyntaf ar Ragfyr 16.
Gwnaed honiadau am driniaeth Manning yn y ddalfa, oedd yn cynnwys caethiwed unig am hyd at 23 awr y dydd, arolygon gan swyddogion bob pum munud o 5am ymlaen, a thynnu ei ddillad. Mae gan Jill Evans bryderon ynglŷn â’r driniaeth sy’n tanseilio ei hawliau.
Dywedodd Ms Evans: “Mae teulu Bradley Manning yn dod o Aberdaugleddau lle mae ei fam o hyd yn byw. Rwy’ am i’r honiadau hyn sy’n achos o bryder ynglŷn â’i driniaeth yn y ddalfa i gael eu harchwilio gan Juan Méndez, sef archwilydd arbennig y Cenhedloedd Unedig ar artaith.”
Gwnaeth Juan Mendez nifer o geisiadau i gael mynediad i’r safle milwrol lle mae Manning wedi ei gadw, ond fe gafodd y cyfan eu gwrthod gan awdurdodau’r Unol Daleithiau. Cafodd Manning ei arestio ym mis Mai 2010 ac fe gafodd ei gyhuddo o nifer o droseddau.
Parhaodd Ms Evans: “Os caiff yr honiadau eu profi’n gywir, bydd hyn yn drosedd o ran cyfraith ryngwladol a chyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Bydd hi’n sicr yn niddordeb llywodraeth yr UDA hefyd i’n sicrhau ni nad yw ei driniaeth yn anghyfreithlon. Mae Bradley Manning wedi treulio 17 mis mewn caethiwed cyndreialu. Rwy’n obeithiol y caiff ei achos ei ddatrys yn y llys ar Ragfyr 16."
Llun: Gill Evans