Mwy o Newyddion
Ymgeisio am enwebiad i fod yn arweinydd Plaid Cymru
Cyhoeddodd Simon Thomas AC dros ganolbarth a gorllewin Cymru mewn cyfarfod briffio ei fod yn ymgeisio am enwebiad i fod yn arweinydd Plaid Cymru.
Mewn araith yn Atrium Prifysgol Morgannwg, meddai Mr Thomas: “Ar ôl gwrando ar aelodau’r blaid yn ystod yr haf a’r hydref rwyf wedi penderfynu cyflwyno fy enw fis nesaf fel arweinydd Plaid Cymru - plaid sy’n cynrychioli Cymru gyfan.”
Yn ystod y cyfarfod briffio yr oedd wedi amlinellu sut y byddai’n arweinydd o fath wahanol ac arddull wahanol gan wrando ar aelodau ac ymateb iddyn nhw a chyflwyno prosesau penderfynu diwygiedig ac ymgynghori’n ystyrlon â phob rhan o’r blaid. Byddai hefyd yn paratoi ar gyfer yr ymdrech hirdymor i ddychwelyd fel llywodraeth.
Meddai Simon Thomas: “Rwyf wedi siarad â sawl Aelod y Cynulliad cyn gwneud y penderfyniad hwn. Fy nymuniad, fel arweinydd, yw arwain mewn ffordd gynhwysol a chyfranogol. Fy mwriad yw ymgynghori â’r rhai a fydd yn rhaid i mi arwain yn siambr y Senedd cyn rhoi gweledigaeth glir ar gyfer fy mhlaid a’m cenedl.
“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i arweinydd newydd nid yn unig adnewyddu’r blaid, ond adfer Plaid Cymru fel dewis gwirioneddol o ran plaid llywodraethu i bobl Cymru. Mae’n rhaid iddo neu iddi chwarae ei ran i adfer ffydd mewn gwleidyddiaeth. Nid mesur tymor byr yw hwn, ond rhywbeth i ni ystyried yn ystod o leiaf dau dymor y Cynulliad”.
Llun: Simon Thomas